Mewn undod mae nerth

  • Cyhoeddwyd
"Fy mhrif amcan yw i greu gêm unedig yng Nghymru."Ffynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

"Fy mhrif amcan yw i greu gêm unedig yng Nghymru."

Mae Gareth Davies wedi 'sgwennu i BBC Cymru Fyw am y sialensau sy'n ei wynebu fel cadeirydd newydd Undeb Rygbi Cymru.

Bob hyn a hyn, mae un gair yn gallu cwmpasu nifer eang o faterion cyfoes. Ar hyn o bryd y gair hwnnw yw Undod.

Yn ystod fy nghyfweliad cyntaf pan ges i fy ethol yn Gadeirydd newydd Undeb Rygbi Cymru rai misoedd yn ôl, pwysleisiais taw fy mhrif amcan oedd i geisio dod â'r carfanau croes a'r agendâu gwahanol o fewn y gêm gyda'i gilydd, er mwyn creu gêm unedig yng Nghymru.

Gallwch honni y dylai hi fod yn haws i wneud hynny yma na mewn nifer o'r gwledydd ry ni'n chwarae yn eu herbyn oherwydd maint daearyddol y wlad a nifer y clybiau - ond mae hynny'n symleiddio pethau'n ormodol ac yn llwyr ddiystyru'r emosiwn plwyfol sy'n tanio'r gamp yma yng Nghymru. Beth bynnag, mae'n rhaid i ni drio!

Wythnos ddiwethaf daeth y cawlach cysylltiadau cyhoeddus am liwiau tîm Cardiff City i ben. Dechreuodd y ddadl pan benderfynodd perchennog Cardiff City, Vincent Tan, newid lliw crysau'r tîm o las i goch, a mabwysiadu Draig Goch fel logo ar draul yr "Adar Gleision". Undod yw'r rheswm y dywedodd ei fam ddoeth wrtho pam y dylai ildio ac y dylai drio meithrin awyrgylch mwy unedig yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Er fod y penderfyniad i newid lliwiau wedi bod yn annerbyniol i nifer, roedd y dacteg bron yn cael ei hystyried yn un llwyddiannus pan oedd y tîm yn llwyddo yn yr Uwchgynghrair, ond unwaith i'r tîm gwympo i'r Bencampwriaeth ac i'r gôls ddod yn fwy prin, roedd e'n esgus perffaith i'r cefnogwyr selog newid gêr a brwydro hyd yn oed yn fwy - cyn i Mrs Tan ennill y dydd gyda'i chri am undod.

Daw'r trydydd enghraifft o'r gair undod, ac efallai'r enghraifft mwyaf arwyddocaol, yn dilyn y digwyddiadau ofnadwy ym Mharis wythnos ddiwethaf, ac yn wir ledled Ffrainc.

Mae gweriniaeth Ffrainc yn rhoi lle blaenllaw i ryddid barn, a Dydd Sul, cafwyd safiad herfeiddiol o wydnwch gwladgarol yn erbyn y llofruddiaethau erchyll gan derfysgwyr Islamaidd a ddigwyddodd yn ystod yr wythnos.

Roedd penawdau'r cyfryngau ar draws y byd yn ffocysu ar undod - mewn undod mae nerth, wedi'r cyfan.

Mi fydd Gareth yn ymuno â'r Farwnes Eluned Morgan o'r Blaid Lafur, yr Arglwydd Dafydd Wigley o Blaid Cymru a'r Aelod Seneddol Glyn Davies o'r Ceidwadwyr ar banel Pawb a'i Farn nos Iau 9.30 S4C