Dedfrydu dynion am hela moch daear yn Sir y Fflint

  • Cyhoeddwyd
Y dynion yn hela moch daearFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-Powys
Disgrifiad o’r llun,

Llun o ffôn symudol o'r dynion yn hela moch daear

Mae dau ddyn wedi eu dedfrydu am geisio cymryd, niweidio neu ladd moch daear yn Sir y Fflint.

Roedd Leighton Shiers, 19 a William Chrystal o Kirkby yn Lerpwl wedi pledio'n euog i'r cyhuddiad mewn gwrandawiad cynharach.

Cafodd y ddau eu harestio wedi i'r heddlu eu darganfod mewn cae yn Nhrelawnyd ger Treffynnon ym mis Ebrill 2014. Rhedodd tri unigolyn arall i ffwrdd ac nid ydynt wedi cael eu dal.

Daeth yr heddlu o hyd i'r dynion gyda chŵn hela moch daear, rhawiau, cerbyd gyriant pedair olwyn a dyfais GPS ar goleri'r cŵn oedd wedi eu hel o dan y ddaear i chwilio am y moch daear.

Dywedodd Peter Humphrey-Jones ar ran yr erlyniad yn Llys Ynadon y Fflint fod twll y moch daear yn ymddangos fel un lle'r oedd moch daear yn byw ar y pryd.

Roedd lluniau ar ffonau symudol y dynion o gŵn yn hela ac ymosod ar foch daear.

Cafodd y dynion eu dedfrydu i wneud 160 awr o waith cymunedol yn ddi-dâl gan y barnwr Gwyn Jones.

Dywedodd y barnwr fod y cynllun wedi bod yn un soffistigedig oedd wedi ei gynllunio'n drylwyr, ac yn dangos diddordeb afiach mewn niweidio moch daear.

Cafodd y diffynyddion eu gorchymyn i dalu £300 yr un mewn costau.