Cyngor yn cymeradwyo ad-drefnu ysgolion ardal Dolgellau
- Cyhoeddwyd
Mi fydd ysgolion yn ardal Dolgellau yn cael eu had-drefnu wedi i gabinet Cyngor Gwynedd gymeradwyo cynllun fydd yn golygu lleihau nifer y safleoedd o ddeg i chwech.
Roedd penderfyniad y cabinet yn unfrydol.
Bydd un ysgol ardal yn cael ei sefydlu gydag un pennaeth yn gyfrifol am chwech o safleoedd yn nalgylch Ysgol Uwchradd y Gader.
O ganlyniad, mi fydd ysgolion Brithdir, Llanfachreth, Bontddu a Ganllwyd yn cau ym mis Awst 2017.
Bydd £4.34m yn cael ei wario i wella gweddill yr adeiladau yn Ysgol y Gader, Ysgol Gynradd Dolgellau, Ysgol Ieuan Gwynedd, Ysgol Rhydymain, Ysgol Llanelltyd, Ysgol Dinas Mawddwy, ac Ysgol y Friog.
Clywodd aelodau'r cabinet nad ydi'r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy gan fod niferoedd y plant wedi gostwng.
Mi fydd y cyngor yn arbed rhyw chwarter miliwn o bunnau'r flwyddyn o ganlyniad i'r ad-drefnu, ond mi fydd y drefn newydd yn golygu gwella safon addysg ar draws y dalgylch meddai'r cyngor, a hynny drwy rannu adnoddau a staff.
Bydd hefyd yn sicrhau fod safle ar gael o fewn pellter rhesymol i holl ddisgyblion y dalgylch, yn ôl yr awdurdod.
Y bwriad ydi gweithredu'r cynllun newydd ym mis Medi 2017 ond mi fydd llywodraethwyr yr ysgol newydd yn penodi pennaeth o fis Medi 2016.