Cau cwrs golff Llangefni
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Môn wedi penderfynu cau cwrs golff Llangefni.
Daw'r penderfyniad wedi i adolygiad diweddar ganfod bod y cwrs naw twll yn gwneud colled flynyddol o oddeutu £28,000 ac wedi gwneud hynny ers rhai blynyddoedd bellach.
Bydd y cwrs yn cau ym mis Ebrill eleni.
Fe gafodd y cwrs ei agor ym 1983 gan y cyngor, er mwyn cynnig cyfleuster rhad ar gyfer chwarae'r gêm.
Ond yn ddiweddar, mae'r nifer sy'n defnyddio'r safle wedi disgyn, yn ôl y cyngor, "a'r sector breifat yn parhau i ddarparu cystadleuaeth sylweddol."
Fe fydd y llain ymarfer 16 cilfach, a'r llecynnau ymarfer eraill, yn aros ar agor am ddwy flynedd arall er mwyn cydymffurfio ag amodau grant diweddar.
'Dim opsiwn'
Mewn datganiad bnawn Mercher, fe ddywedodd y cyngor:
"Wrth wynebu toriadau o hyd at £17m dros y tair blynedd nesaf, does gan y Cyngor nawr, yn anffodus, dim opsiwn ond i gwtogi'r gwasanaethau a chyfleusterau anstatudol weithredir gan ei Wasanaethau Hamdden.
"Cytunodd aelodau'r Pwyllgor Gwaith y byddai'r cwrs golff yn cau yn Ebrill eleni gyda'r tir yn cael ei lesu at ddefnydd amaethyddol yn y tymor byr. Fe werthir y safle 51 acer i gyd yn 2017 gyda'r elw yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau statudol."
Mae'r cwrs yn cyflogi dau aelod o staff llawn amser a dau aelod rhan amser; ynghyd â chwaraewr golff proffesiynol dan gytundeb.
Mae'n nhw wedi cael gwybod am y penderfyniad a'r gobaith yw gallu adleoli'r staff.