Eric Pickles: Gwrthod chwalu strydoedd Cymreig Lerpwl
- Cyhoeddwyd
Yn ôl Radio Merseyside, mae'r Ysgrifennydd Cymunedau Eric Pickles wedi gwrthod cynlluniau i chwalu strydoedd Cymreig Lerpwl, er gwaethaf y ffaith bod y cynlluniau wedi eu cymeradwyo gan arolygydd cynllunio annibynnol.
Cafodd y cynlluniau eu cymeradwyo gan Gyngor Lerpwl yn 2013, ond cawson nhw eu galw mewn gan Mr Pickles wedi i ymgyrchwyr oedd am weld y tai'n cael eu hadnewyddu, wrthwynebu i'w dymchwel.
Byddai'r cynlluniau wedi golygu bod 280 o dai yn cael eu dymchwel, er mwyn i ddatblygiad gwerth £15 miliwn gael mynd yn ei flaen.
Cafodd ymchwiliad cyhoeddus ei alw yn 2013, ac mi ddaeth i'r casgliad y dylai'r cynllun fynd yn ei flaen, ond mae Mr Pickles wedi gwrthod y penderfyniad hwnnw.
Dywedodd Maer Lerpwl, Joe Anderson, bod y penderfyniad y gweinidog yn "annerbyniol ac amharchus."
Degawd o ddisgwyl
Mae awdurdodau wedi bod yn ceisio dod i gytundeb am beth i'w wneud gyda'r strydoedd o dai, sydd erbyn hyn yn flêr a llawer ohonyn nhw'n wag, ers dros ddegawd.
Cafodd y tai eu codi gan weithwyr o Gymru yn yr 19eg ganrif, a chafodd y strydoedd eu henwi ar ôl trefi, pentrefi a chymoedd Cymru.
Ar un adeg roedd 70 o gapeli Cymraeg yn Lerpwl, ond nifer fach sydd ar ôl bellach.
Cafodd gweithwyr o Gymru eu denu i'r ddinas yn chwilio am waith.
Ringo Starr
Cafodd y syniad o ddymchwel y tai ei awgrymu ddegawd yn ôl, ond mae rhai yn galw am gynllun gwahanol.
Cafodd y strydoedd eu dynodi gan y Llywodraeth fel ardal y dylid ei ail-ddatblygu er mwyn codi tai mwy modern.
Y gobaith oedd ceisio annog pobl i aros yn y rhannau yna o'r ddinas.
Ond cafodd y cynllun hwnnw ei atal wedi beirniadaeth gan y Swyddfa Archwilio Cenedlaethol yn 2010.
Cafodd y cynllun diweddaraf ei gymeradwyo gan Gyngor Lerpwl, cyn y galwad am ymchwiliad pellach gan y gweinidog a phenderfyniad Mr Pickles i wrthod y cynllun.
Cafodd seren y Beatles, Ringo Starr ei eni yn un o'r tai dan ystyriaeth ar Stryd Madryn, a byddai'r adeilad yn un o 37 i gael eu hadfywio pe bai'r cynllun yn mynd yn ei flaen.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2013