Prosiect anabledd dysgu: rhoi llais i'r 'cyn-guddiedig'

  • Cyhoeddwyd
ArddangosfaFfynhonnell y llun, Mencap Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Llun o'r arddangosfa

Ddydd Llun fe fydd rhan gyntaf cyfres o arddangosfeydd yn cael ei hagor er mwyn adrodd straeon cleifion a staff o hen sefydliadau i bobl gydag anableddau dysgu.

Mae'r prosiect wedi ei drefnu gan Mencap Cymru o dan y teitl 'Clywed y Cyn-Guddiedig' - ac fe fydd yr arddangosfa gyntaf yn Amgueddfa Abertawe.

Bydd y prosiect tair blynedd yn clywed atgofion gan bobl oedd yn arfer byw mewn ysbytai hir-dymor i bobl ag anableddau dysgu.

Roedd chwech o'r ysbytai hyn ar agor yng Nghymru ar un cyfnod, ond fe gaewyd yr ysbytai yn 2006.

Arian Loteri

Cafodd Mencap Cymru £292,000 o arian Cronfa Treftadaeth y Loteri i gasglu tystiolaeth gan bobl oedd yn arfer byw yn yr ysbytai - gyda phobl yn aros am gyfnod mor hir â 40 mlynedd mewn rhai achosion.

Bydd chwe amgueddfa ranbarthol ar draws Cymru yn cymryd rhan yn y cynllun, a gobaith y trefnwyr ydi y bydd lleisiau pobl ag anableddau dysgu oedd yn byw yn yr ysbytai hir-dymor yn cael eu clywed am y tro cyntaf.

Bydd arddangosfa barhaol yn cael ei gosod yn Amgueddfa Sain Ffagan hefyd yn y dyfodol.

Dywedodd Wayne Crocker, Cyfarwyddwr Mencap Cymru: "Mae'r arian ar gyfer y prosiect yn dod ar amser tyngedfennol.

"Gan fod llawer o bobl hŷn ag anabledd dysgu oedd yn byw mewn sefydliadau arhosiad hir yn marw neu'n dioddef gan ddementia, rydyn ni mewn perygl o golli eu hanesion amhrisiadwy a fydd, yn ein tyb ni, yn gallu gwella ymwybyddiaeth o'r math o fywyd roedden nhw'n ei fyw a'n helpu i leihau anwybodaeth a all arwain at droseddau casineb sy'n gysylltiedig â phobl anabl yng Nghymru.

"Rydyn ni'n arbennig o falch bod Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi'r prosiect trwy helpu gyda'r arian cyfatebol.

"Ym mis Mawrth fe gyhoeddon nhw eu bod yn rhoi grant o £18,000 tuag at y £34,160 o arian cyfatebol yr oedd ar Mencap Cymru angen dod o hyd iddo."

Dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri yn Nghymru: "Mae hwn yn brosiect unigryw fydd yn cael gafael ar ran o'n treftadaeth genedlaethol nad yw, yn hanesyddol, wedi ei gofnodi na'i ddiogelu'n dda ac rydyn ni'n falch iawn o fedru ei gefnogi.

"Mae arnon ni eisiau sicrhau bod pob rhan o'n treftadaeth gyfoethog yn cael eu cynnal a'u cadw, nid y dreftadaeth gorfforol yn unig.

"Mae'r prosiect hwn yn sicrhau bod elfen guddiedig o'n hanes bellach yn cael ei rhannu â phawb am flynyddoedd i ddod.''