Pier Bangor: 'Cyngor y Ddinas ddim yn gwneud digon'

  • Cyhoeddwyd
Pier Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr am weld mwy yn cael ei wneud i ddenu ymwelwyr i'r pier

Mae aelodau grŵp gwleidyddol newydd sydd wedi ei sefydlu ym Mangor yn bwriadu bod yn bresennol mewn cyfarfod o gyngor y ddinas nos Lun nesaf pan fydd y cynghorwyr yn trafod dyfodol y pier.

Mae aelodau mudiad sy'n galw eu hunain yn "Dewis y Bobol", ynghyd ag aelodau "Grŵp Cefnogi'r Pier", yn honni nad yw'r cyngor yn gwneud digon i hyrwyddo'r pier a threfnu gweithgareddau yno.

Maen nhw'n honni hefyd nad yw'r cyngor yn fodlon gwrando ar farn y cyhoedd a bod y cynghorwyr yn mynnu trafod materion yn ymwneud â'r safle'r tu ôl i ddrysau caeedig.

Mae un cynghorydd wedi ymateb drwy ddweud bod y cyngor yn agored i wrando ar farn y bobl, ond bod 'na rai agweddau o unrhyw fater sy'n gorfod bod yn gyfrinachol.

'Dangos mwy o barch'

Cafodd Pier Bangor ei adeiladu yn 1896, gan gostio £17,000, ond erbyn hyn mae angen cryn waith adnewyddu ar yr adeilad, gwaith fyddai'n costio cannoedd o filoedd o bunnoedd.

Mae grŵp wedi'i sefydlu, Grŵp Cefnogi'r Pier, er mwyn ymgyrchu o blaid y strwythur a cheisio sicrhau ei ddyfodol.

Dywedodd Eirian Roberts, o'r grŵp, ei bod hi am weld "mwy o ddefnydd o'r pier", gan sicrhau ei fod yn cael "ei edrych ar ei ôl a'i barchu".

Ychwanegodd ei bod am weld "y cyngor lleol yn dangos mwy o barch i'r pier", gan honni nad ydi o'n "cael dim ar hyn o bryd."

Dywedodd nad oedd unrhyw arwyddion i ddenu pobl i ymweld â'r pier, ac nad oes unrhyw beth "i roi hwb i'r lle", gan ychwanegu bod "angen newid neu golli fo wnewn ni am byth."

'Agweddau cyfrinachol'

Mae grŵp arall wedi'i sefydlu ym Mangor, Dewis y Bobol, er mwyn ceisio annog trigolion i gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth.

Dywedodd Stephanie Williams, o'r grŵp, eu bod nhw eisiau i bobl agor eu llygaid a gweld "y gallan nhw fod yn involved a gweld pethau'n newid".

Un o'r pethau sy'n poeni'r grŵp yw bod penderfyniadau yn cael eu gwneud y tu ôl i ddrysau caeedig, gan gynnwys trafodaethau am ddyfodol y pier.

Ychwanegodd: "Mae cyfarfodydd y cyngor yn agored i'r cyhoedd, ond pan maen nhw'n siarad am y pier, maen nhw'n gofyn i'r cyhoedd adael."

Mae'r cynghorydd John Wynn Jones, o Gyngor Dinas Bangor, wedi ymateb drwy ddweud: "Rydan ni'n ceisio'n gorau i fod yn gynhwysol, ond mae 'na agweddau o unrhyw fater sy'n gorfod bod yn gyfrinachol.

"Ond rydan ni'n ddigon agored i gael barn y bobl."