Brwydr y Bandiau
- Cyhoeddwyd
Mae Brwydr y Bandiau yn newid! Mae'r gystadleuaeth eleni'n cyfuno'r ddwy gystadleuaeth a fu'n cael eu cynnal yn y gorffennol, y naill wedi'i threfnu gan yr Eisteddfod a Maes B a'r llall gan C2 BBC Radio Cymru a Mentrau Iaith Cymru.
Y bwriad yw cynnig profiad gwerthfawr i'r cystadleuwyr ac annog rhagor o fandiau a pherfformwyr i gymryd rhan. Lisa Gwilym, un o gyflwynwyr C2, sy'n bwrw golwg nôl dros gystadlaethau'r gorffennol ar ran Cymru Fyw:
Be ddigwyddodd i Eryr ?
"Nôl yn 2005, fe ges i gwmni'r grŵp Eryr yn stiwdio C2, enillwyr cynta' Brwydr y Bandiau C2 a Mentrau Iaith Cymru. Yda' chi'n eu cofio nhw? Na…?
Ydy'r enwau Aled Hughes a Dafydd Hughes yn canu cloch? Do, fe aeth dau o aelodau Eryr ymlaen i ffurfio Cowbois Rhos Botwnnog, ac i fod yn aelodau o grŵp Georgia Ruth… ddim yn ddrwg o gofio mai grŵp roc trwm arbrofol oedd Eryr.
Beth am y Zootechnics? Enillwyr Brwydr y Bandiau Maes B 2006? Dwi ddim yn cofio fawr amdanyn nhw a bod yn onest, ond fe aeth Daf a Gruff o'r grŵp ymlaen i sefydlu Eitha Tal Ffranco, ac yna i redeg label Klep Dim Trep a chreu'r grwpiau rhyfeddol Saron a Bür Hoff Bau. Mae'r ddau bellach yn aelodau o Palenco. Felly diolch byth am Zootechnics!
Canu cloch?
Ond mae yna rai enwau 'chydig mwy cyfarwydd ar restr enillwyr ByB Maes B, fel Plant Duw. Ar ôl ennill yn 2005, fe wnaethon nhw ryddhau cwpl o albyms gwych: 'Y Capel Hyfryd' a 'Distewch Llawenhewch'. Yn fwy diweddar mae Creision Hud, Bromas, Sŵnami a Kizzy Crawford i gyd wedi gadael eu marc ar y sîn ar ôl ennill y gystadleuaeth yn y 'Steddfod.
Cynnyrch sy'n codi
Wrth edrych yn ôl ar restr enillwyr Brwydr y Bandiau C2, mae yna gwpl o enwau cyffrous iawn. Trwbz oedd enillwyr y llynedd, ac maen nhw newydd ryddhau sengl fel rhan o Glwb Senglau'r Selar, ac yn gweithio ar albym ar hyn o bryd. Mae Y Ffug, enillwyr 2013, yn un o fandiau mwyaf cyffrous Cymru ar hyn o bryd, ac fe recordiodd Yr Angen o 2010 albym wych yn fuan wedyn.
Boddi wrth y lan
Ond falle be' sy'n ddifyr ydy gweld rhai o'r enwau mawr wnaeth foddi wrth y lan yn y ddwy gystadleuaeth. Yn 2010, wnaeth Candelas ddim cyrraedd y rownd derfynol! Pwy oedd y beirniaid euog tybed? Fe ddigwyddodd yr un peth yn 2012. Nebiwla yn ennill, ond y grŵp gwych Yr Ayes yn methu cyrraedd y rownd derfynol. Yn 2007 yn Maes B roedd Yr Ods yn ail, ac yn 2008 fe gollodd Y Bandana y frwydr yn erbyn Madre Fuqueros.
Ymlaen i'r dyfodol
Beth sy'n gwbl amlwg o'r rhestrau ydy fod degau o fandiau ifanc wedi elwa o'r cyfleon mae'r ddwy gystadleuaeth wedi eu cynnig yn ystod y blynyddoedd. Dwi'n siŵr bydd y gystadleuaeth newydd yn rhoi mwy fyth o brofiadau gwych i fandiau newydd ifanc, yn datblygu a meithrin cerddorion o bob math, a dwi'n edrych ymlaen i ddarganfod pob math o artistiaid newydd gwych yn 2015!
Cliciwch yma i weld lluniau o holl gyn-ennillwyr Brwydr y Bandiau ar wefan C2, BBC Radio Cymru