Gwasanaeth awyr o Gymru i Norwich

  • Cyhoeddwyd
LinksAirFfynhonnell y llun, LinksAir

Bydd hediad newydd o Gymru i ddwyrain Lloegr yn cael ei chynnig gan gwmni LinksAir.

Y cwmni sy'n gyfrifol am hediadau o Ynys Môn i Gaerdydd, ac o Ebrill 20 bydd cymal newydd i Norwich yn cael ei hychwanegu.

Fe fydd y gwasanaeth yn rhedeg o ddydd Llun i ddydd Gwener, gan adael Maes Awyr Caerdydd am 10:20 a chyrraedd Maes Awyr Norwich ychydig dros awr yn ddiweddarach am 11:25.

Bydd hynny'n arbed dros 4 awr o amser teithio o'i gymharu â'r siwrne mewn car.

Dywedodd Spencer Birns, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Maes Awyr Caerdydd ei fod yn "wych" gweld llwybrau newydd yn cael eu hychwanegu.

'Busnes a hamdden'

"Fe fydd Norfolk a Dwyrain Lloegr yn apelio at gwsmeriaid busnes a theithwyr hamdden, yn ogystal â dod ag ymwelwyr i mewn i Gymru," meddai.

Fy ychwanegodd Ieuan Williams, Arweinydd Cyngor Môn: "Mae'r ddau leoliad yn chwarae rhan bwysig yn y diwydiant ynni, ac mae cael cysylltiadau rhwng y ddwy ardal yn mynd i ddod a budd i'r ddau le."

Mae Clive Evans sy'n wreiddiol o Gwmann, ger Llanbedr Pont Steffan, yn gyfarwyddwr cwmni o ymgynghorwyr, ac yn byw yn ardal Norwich.

Dywedodd: "Bydd hyn yn wasanaeth cyfleus o ran gwaith a bywyd personol. Mae gwella cysylltiadau fel hyn, yn enwedig gyda Chymru yn bwysig i mi, ond hefyd mae angen ystyried yr amgylchedd.

"Ond os oes angen y gwasanaeth… gwir angen - yna gwych - os yw'r pris yn iawn."