Cynhadledd i wella sgiliau mathemateg
- Cyhoeddwyd

Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnal ei gynhadledd fathemateg genedlaethol gyntaf yng Nghaerdydd ddydd Mercher mewn ymdrech i wella beth sy'n cael ei adnabod fel y gwanaf o'r pynciau craidd yng Nghymru.
Fe fydd cynhadledd Mathemateg am Oes yn canolbwyntio'n benodol ar addysgu a dysgu mathemateg mewn ysgolion yng Nghymru.
Mae'r gynhadledd yn gyfle i benaethiaid adrannau mathemateg mewn ysgolion uwchradd i rannu syniadau, arbenigedd ac arferion gorau ynglŷn ag ennyn diddordeb dysgwyr ac argymell sut y gall perfformiad dysgwyr mewn mathemateg gael ei wella.
Yn y cyfamser, mae un o wyddonwyr amlycaf Cymru, Syr John Meurig Thomas, wedi dweud wrth Cymru Fyw nad oes digon yn cael ei wneud yma i ddathlu ein mathemategwyr a'n gwyddonwyr blaenllaw.
Pryderon
Mae'n bwnc sy'n achosi pryder mawr i'r Gweinidog Addysg, Huw Lewis.
Dywedodd wrth BBC Cymru fis Tachwedd y llynedd bod angen i ysgolion Cymru ddangos mwy o frys i wella sgiliau mathemateg.
Yn 2013 llwyddodd 52.8% o ddisgyblion i gael gradd A*-C mewn mathemateg, ond erbyn llynedd roedd y ffigwr wedi gostwng i 50.6%.
Yn Lloegr, cododd y canran o 57.7% yn 2013 i 63%.
Dros y tair blynedd diwethaf, mae mwy o bwyslais wedi cael ei roi ar lythrennedd a rhifedd yn ysgolion Cymru, a hynny drwy'r holl gwricwlwm.
Mae hyn, yn rhannol, mewn ymateb i ganlyniadau siomedig yn nhablau rhyngwladol PISA, sy'n mesur gallu disgyblion 15 oed mewn mathemateg, gwyddoniaeth a darllen.
Mae Cymru yn perfformio'n waeth nac unrhyw ran arall o'r DU, a mathemateg yw'r gwaethaf o dair elfen PISA.

Rhai ysgolion yn gwella
Er hynny, mae rhai ysgolion wedi cymryd camau i wella sgiliau mathemateg eu disgyblion.
Mae canlyniadau TGAU mathemateg Ysgol Gyfun Cwm Rhymni yng Nghaerffili wedi mynd o nerth i nerth dros y pum mlynedd diwethaf.
Yma, mae disgyblion yn cael eu rhannu i setiau yn ôl eu gallu cyn gynted iddyn nhw ddechrau yn yr ysgol, ac mae mwy o bwyslais ar wthio'r disgyblion mwyaf disglair.

Mae canlyniadau TGAU mathemateg Ysgol Gyfun Cwm Rhymni wedi mynd o nerth i nerth
Dywedodd Scott Conway, un o athrawon mathemateg yr ysgol: "Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'n hysgolion cynradd, 11 ohonyn nhw, i wneud yn siŵr ein bod yn gwybod beth yw gallu'r disgyblion, eu cryfderau a be sydd angen iddyn nhw weithio arno, erbyn iddyn nhw ein cyrraedd ni."

Rhannu syniadau
Dywedodd y Gweinidog Addysg Huw Lewis nad oedd cynnydd mewn mathemateg yn digwydd yn ddigon cyflym.
"Rwy'n gwybod bod adrannau mathemateg ar draws Cymru'n cyflawni gwaith rhagorol ac rwy'n gweld y gwaith hwn ac yn clywed amdano'n rheolaidd.
"Dyna pam roeddwn mor awyddus i gynnal y gynhadledd hon - cyfle i ddod â'n mathemategwyr mwyaf disglair ynghyd. Hoffwn eich gweld yn rhannu syniadau ac arbenigedd."

Disgyblion cynradd
Mae targedu disgyblion cyn iddyn nhw gyrraedd ysgol uwchradd yn aml yn cael ei weld fel ffordd well o ddatblygu sgiliau mathemateg, a dyma beth sy'n digwydd yn Ysgol Gynradd Oldcastle ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Hon yw'r ysgol gyntaf yng Nghymru i gael cymryd rhan yn rhaglen Every Child Counts, sy'n canolbwyntio ar ddisgyblion sy'n cael trafferth â mathemateg trwy sesiynau ychwanegol.
Ond am gost o tua £2,500, dyw'r rhaglen ddim yn rhad.
Dywedodd prifathro'r ysgol, Jeremy Thompson, ei fod yn fuddsoddiad da er yr ymrwymiad ariannol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Ionawr 2015