Cynghorwyr yn gwrthod cynnig i gau Ysgol Dewi Sant

  • Cyhoeddwyd
Protest Penfro
Disgrifiad o’r llun,

Roedd tua 300 o bobl yn protestio tu allan i swyddfeydd Cyngor Sir Penfro fore Iau

Mae cynghorwyr Penfro wedi pleidleisio yn erbyn argymhelliad i gau Ysgol Uwchradd Dewi Sant yn Nhyddewi.

Roedd swyddogion addysg wedi argymell cau'r ysgol ynghyd ag Ysgol Bro Gwaun, ac agor ysgol newydd ar safle Bro Gwaun.

Penderfynodd cynghorwyr Penfro wrthod y cynnig, a bydd Ysgol Dewi Sant yn parhau ar agor ond yn colli ei chweched dosbarth.

Bu tua 300 o bobl yn protestio tu allan i swyddfeydd Cyngor Sir Penfro yn Hwlffordd cyn i'r cynghorwyr bleidleisio.

Nawr fe fydd cyfnod o ymgynghori gyda'r cyhoedd yn dilyn y penderfyniad.

Mae cynghorwyr hefyd wedi bod yn trafod argymhellion eraill gan swyddogion ynglŷn â dyfodol addysg uwchradd yng nghanolbarth a gogledd y sir.

Darpariaeth Cymraeg

Yn Hwlffordd, mae yna gynlluniau i gau Ysgolion Syr Thomas Picton a Tasker Milward, a sefydlu ysgol cyfrwng Saesneg newydd ar safle presennol Ysgol Syr Thomas Picton.

Mae yna gynlluniau hefyd i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sir. Ar hyn o bryd, mae disgyblion o Dde a Chanolbarth Sir Benfro yn gorfod teithio i Ysgol y Preseli yng Nghrymych.

Mae yna gynlluniau i ddefnyddio safle Ysgol Tasker Milward yn Hwlffordd i sefydlu Ysgol Gymraeg neu Ddwyieithog 3 i 16 oed - cynnig sydd wedi ei groesawu ar y cyfan gan ymgyrchwyr iaith.

Byddai addysg cyfrwng Cymraeg ol-16 yn cael ei ddarparu yn Ysgol y Preseli.

Ar hyn o bryd, mae yna unedau Cymraeg yn ne Penfro yn ysgolion Gelli Aur ym Mhenfro, Dinbych y Pysgod ac Arberth.

Fe fydd proses ymgynghori yn cael ei chynnal am wyth wythnos os ydy'r cynigion yn cael sêl bendith y cynghorwyr.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Ysgol Dewi Sant yn parhau i roi addysg i ddisgyblion rhwng 11-16