Apêl i achub capel Llwynrhydowen yng Ngheredigion

  • Cyhoeddwyd
Capel UndodaiddFfynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i'r gosod to newydd orffen erbyn 2016

Mae apêl wedi ei lansio er mwyn codi arian ar gyfer rhan olaf prosiect achub un o gapeli hanesyddol pwysicaf Cymru.

Nod apêl Llechi Llwyn yw gorffen atgyweirio Capel Llwynrhydowen ger Llandysul cyn dathlu 140 mlwyddiant pwysig yn 2016.

Mae pobl yn cael eu gwahodd i dalu £10 i noddi un o'r 2,300 o lechi traddodiadol sydd eu hangen ar do'r capel Undodaidd.

Bydd modd gwneud hyn o dan eu henwau eu hunain, aelodau eu teuluoedd neu gofio am anwyliaid ac arwyr ac fe fydd cofrestr o'r holl gyfraniadau yn cael eu chadw yn y capel.

Yn ôl y trefnwyr, fe fydd yr apêl yn cyrraedd yr Unol Daleithiau oherwydd y cysylltiad gyda dau o arwyr America - y bardd Dylan Thomas a'r pensaer Frank Lloyd Wright.

Etholiad 1868

Os yw'r apêl yn llwyddiannus mae disgwyl i'r gwaith orffen erbyn 2016 - 140 o flynyddoedd ers i'r capel fod ym mhenawdau'r newyddion trwy wledydd Prydain a thu hwnt.

Dyna pryd y cafodd y gynulleidfa ei "throi mas" o'r capel a'r fynwent lle oedd eu hanwyliaid am fod y landlord yn cyhuddo eu gweinidog o gynhyrfu pobl i fynnu eu hawliau.

Roedd y "troi mas" a barhaodd am dair blynedd yn rhan o'r helynt yn sgil Etholiad Mawr 1868 pan gafodd tenantiaid eu cosbi am bleidleisio yn agored yn erbyn gorchymyn eu landlordiaid.

Ffynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfeillion y capel yn ceisio dod o hyd i ddefnydd newydd i'r adeilad.

"Roedd y digwyddiadau wedi helpu newid hanes gwledydd Prydain am byth," meddai Cadeirydd Cyfeillion Llwyn, y Cynghorydd Peter Davies.

Yn y pen draw, arweiniodd at y bleidlais gudd, meddai.

'Stori arwrol'

"Mae'n bwysig ein bod ni'n cofio stori arwrol fel hon ac mae'r capel yn symbol o frwydr pobl gyffredin Cymru a thu hwnt i gael eu hawliau.

"Mae'r capel wedi bod mewn perygl ers blynyddoedd ond nawr mae yna gyfle i'w achub a'i warchod a rhoi bywyd newydd iddo.

"Fe fydd noddi llechen yn sicrhau hynny ac yn rhoi cyfle gwych i bobl gael eu cofio, neu gofio am eraill."

Dechreuodd yr achos yn Llwynrhydowen yn 1726 ac adeiladwyd y capel cyntaf yn 1733.

Wrth i'r gynulleidfa dyfu, cafodd estyniad ei godi yn 1745 a'i ailadeiladu'n llwyr yn 1791. Adeiladwyd y capel presennol, y trydydd, yn 1834,

Caeodd y capel yn y chwedegau.

Mae Hen Gapel Llwynrhydowen yn eiddo i Addoldai Cymru, dolen allanol, sy'n gweithio'n agos gyda'r grŵp lleol, Cyfeillion Llwyn, ac Undodiaid lleol i achub yr adeilad Gradd II a dod o hyd i ddefnydd newydd iddo.