'Angen Taser ar bob heddwas'

  • Cyhoeddwyd
Police officer with a TaserFfynhonnell y llun, Met Police
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd aelodau'r Ffederaswin yn pleidleisio ar y mater fis nesa

Fe ddylai pob swyddog rheng flaen yr heddlu yng Nghymru a Lloegr gael cynnig cario gynnau Taser oherwydd y bygythiad terfysgol cynyddol, yn ôl pennaeth Ffederasiwn yr Heddlu.

Dywed Steve White y byddai hyn yn fodd o amddiffyn plismyn rhag "pobl beryglus" ac sy ar fin ymosod arnynt.

"Mae'n rhaid i ni ddangos i'n swyddogion ein bod ni'n cymryd y bygythiad o ddifrif," meddai Mr White.

Ond mae rhai prif gwnstabliaid yn dweud y byddai'n gam tuag at arfogi'r heddlu.

Hefyd dywedodd Christopher Salmon, Comisiynydd Heddlu a Throsedd Dyfed-Powys na fyddai'n croesawu'r cam.

"Byddai rhoi Tasers i blismyn fel rhan o'u gwaith bob dydd yn gamgymeriad, ac yn groes i draddodiadau plismona ym Mhrydain."

Roedd Alun Michael, Comisiynydd Heddlu A Throsedd De Cymru yn pwysleisio nad oedd o yn gwrthwynebu defnydd Taser ond ychwanegodd fod y "penderfyniad o bryd a sut yn fater i'r heddlu yn lleol."

"Fe ddylai fod yn fater i'r prif gwnstabl, sy'n atebol i'r Comisiynydd, benderfynu sut a phryd mae eu defnyddio a beth yn union yw'r anghenion."

Dywedodd Mr White wrth bapur newydd y Guardian y gallai terfysgwyr sy'n ceisio cyhoeddusrwydd ymosod ar unrhyw adeg ac mewn unrhyw le yn y DU.

Fe fydd Ffederasiwn yr Heddlu yn pleidleisio ar gynnig mis nesaf y dylai pob swyddog rheng flaen gael hyfforddiant Taser.

Hyfforddiant

Dywed y Ffederasiwn y dylai swyddogion gael y dewis hefyd i beidio â chario gwn Taser.

Cafodd Tasers eu defnyddio am y tro cyntaf ym Mhrydain yn 2003.

Mae angen i'r heddlu fynd ar gyrsiau hyfforddi cyn cael eu defnyddio, ac mae yna ganllawiau yn dweud y dylid ond eu defnyddio pe bai nhw'n wynebu bygythiad o drais.

Yn 2013, cafodd Tasers eu darparu 10,380 o weithiau yng Nghymru a Lloegr.

Fe wnaeth yr heddlu dderbyn 154 o gwynion am eu defnydd.

Bu nifer o farwolaethu sydd wedi eu cysylltu gyda'r defnydd o'r Taser.

Dywedodd Oliver Sprague o Fudiad Amnest Rhyngwladol: "Rydym o hyd wedi dweud fod yna rôl i Tasers lle mae yna risg amlwg o farwolaeth neu niwed difrifol i'r heddlu neu aelodau o'r cyhoedd - ond dylid bod yn gynnil yn eu defnydd, a hynny gan swyddogion sydd wedi eu hyfforddi i'r safonau uchaf."