Smygu ar dir ysbytai'n parhau'n broblem
- Cyhoeddwyd
Mae smygu ar dir ysbytai Cymru yn dal i fod yn broblem, medd byrddau iechyd, er gwaethaf ymdrechion i'w wahardd.
Gall BBC Cymru ddatgelu bod rhai'n ystyried cyflwyno dirwyon ac wedi cyflogi swyddogion arbennig i herio'r sawl sy'n torri'r rheolau.
Mae'r sefyllfa'n "annerbyniol," yn ôl grŵp ymgyrchu Ash Wales sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddeddfu yn y maes.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw wedi cynnal ymgynghoriad ac yn ystyried "y cam nesa".
'Mur o fwg'
Mae polisïau gwahardd smygu ar dir pob ysbyty yng Nghymru wedi bod mewn grym ers Hydref 2013 er i ambell fwrdd iechyd gyflwyno rheolau flynyddoedd ynghynt.
Fe gysylltodd BBC Cymru â'r chwe bwrdd iechyd gyda phob un yn dweud bod smygu yn "amlwg" ger mynediadau.
Yn ôl Jamie Matthews, Pennaeth Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus Ash Wales: "Ry'n ni'n bryderus iawn am y broblem. Mae'n hollol anghywir fod claf yn wynebu mur o fwg wrth gerdded i mewn i'r ysbyty."
"Ar hyn o bryd does dim digon yn cael ei wneud i sicrhau fod pobl yn cadw at y rheolau. Ac mae 'na anghysondebau hefyd - gyda'r rheolau'n amrywio o ysbyty i ysbyty. Mae angen cysoni hynny.
Mwy na 1000
"Yn y pen draw, ry'n ni'n galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r Bil Iechyd Cyhoeddus - sy'n mynd drwy'r Senedd ar hyn o bryd - er mwyn sicrhau gwaharddiad go iawn."
Fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan eu bod wedi cyflogi dau "swyddog atal ysmygu" i hebrwng smygwyr oddi ar safleoedd eu hysbytai.
Yn y cyfamser, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro bod eu Swyddog Atal Smygu, Jordan Gibbs, wedi siarad â mwy na 1000 o smygwyr yn Ysbyty Athrofaol Cymru dros gyfnod o dri mis.
Roedd y rheiny'n cynnwys 174 o staff, 151 o gleifion a mwy na 700 o ymwelwyr.
Ond ers iddo ddechrau ei swydd ym mis Hydref dywedodd Mr Gibbs fod nifer y smygwyr wedi lleihau.
'Codi ymwybyddiaeth'
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg fod 'na "arwyddion clir" y tu allan i'w hysbytai a'u bod wedi'u "siomi fod pobl dal i ysmygu yno".
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dweud bod smygu "dal i'w weld" er gwaethaf "arwyddion newydd ac ymgyrch i godi ymwybyddiaeth".
Dywedodd llefarydd eu bod yn ystyried y posibilrwydd o gyflwyno dirwyon ar gyfer rhai sy'n taflu'r sigarennau ar lawr.
Mewn datganiad fe ddywedodd Llywodraeth Cymru: "Pan ofynnwyd ynglŷn â deddfu i atal ysmygu ar dir ysbytai roedd yr atebion yn gyffredinol yn gadarnhaol mewn ymgynghoriad diweddar ar gyfer y Papur Gwyn Iechyd Cyhoeddus.
"Ry'n ni nawr yn ystyried y cam nesaf. Fe fyddwn ni'n parhau i weithio gyda byrddau iechyd i'w cefnogi nhw yn eu hymdrechion i sicrhau nad oes 'na smygu yn digwydd ar dir ysbytai."
'Mwg sigaréts'
Mae Liz McSloy o Bontardawe wedi dioddef o asthma ers dros 30 o flynyddoedd ac mae ei merch bum mlwydd oed, Cerys, hefyd ag asthma a sawl alergedd gwael.
"Mae Cerys yn gorfod mynd yn ôl ac ymlaen i'r ysbyty yn gyson," meddai. "Mae 'na wastad pobl yn smygu y tu allan i'r brif fynedfa.
"Y broblem yw bod mwg sigaréts yn effeithio ar fy asthma i. Dwi'n casáu gorfod cerdded drwy'r mwg - dwi'n ei flasu fe yn fy ngheg, ei deimlo yn fy ysgyfaint.
"Y peth gwaetha yw gorfod mynd i A&E gyda fy asthma. Dwi'n dueddol o osgoi'r brif fynedfa a cheisio mynd drwy fynedfa arall er mwyn osgoi'r sawl sy'n smygu.
"Mae angen iddyn nhw godi ymwybyddiaeth o'r gwaharddiad - neu rhoi llefydd penodol i smygwyr fynd. Ac os ydyn nhw'n cael eu dal yn smygu y tu allan i'r ysbyty yna dyle nhw wynebu dirwy."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2012