Y rhan fwyaf o ysbytai Cymru i wahardd ysmygu ar eu tir

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Athrofaol CymruFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae ysmygu yn cael ei wahardd ar dir Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro o Fawrth 14

Mae gwaharddiadau ysmygu mewn grym ar dir y rhan fwyaf o ysbytai Cymru o ddydd Mercher.

Mae Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn ymuno â phedwar bwrdd iechyd arall yng nghymru sydd eisoes yn atal pobl rhag ysmygu ar eu heiddo.

Mae'r unig fwrdd iechyd yng Nghymru sydd heb osod gwaharddiad hyd yn hyn, Bwrdd Iechyd Hywel Dda, yn bwriadu gwahardd ysmygu ar eu heiddo hwythau yn y dyfodol.

Dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fod eu penderfyniad, sy'n cyd-daro â Diwrnod Dim Ysmygu, yn "gam naturiol".

Cysgodfeydd ysmygu

Ond mae polisi o orfodi'r rheoliadau di-fwg yn amrywio o ardal i ardal.

Mae cleifion ac ymwelwyr mewn trallod yn gallu ysmygu mewn cysgodfeydd ysmygu yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

Ond mae cysgodfeydd ysmygu tebyg wedi'u diddymu yn ardal Gwent lle mae gwaharddiad gyfan gwbl mewn grym.

Dywedodd Dr Sharon Hopkins o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro fod ganddynt bolisi cam wrth gam cyn gwahardd ysmygu yn gyfan gwbl.

Ym mis Mai y llynedd penderfynodd y bwrdd gwahardd ysmygu wrth fynedfeydd eu hysbytai ac ym mis Tachwedd y llynedd dechreuodd y bwrdd ofyn i bobl ddefnyddio cysgodfeydd ysmygu ar eu safleoedd.

"Mae yna dystiolaeth glir ynglŷn â'r gost a'r niwed sy'n gysylltiedig â bod yn gaeth i ysmygu," meddai'r Dr Hopkins.

"Rydym yn cymryd y cam hwn i helpu gwella iechyd staff a chleifion a chefnogi ysmygwyr i roi'r gorau iddi."

'Cymdeithas ddi-fwg'

Dywedodd Dr Hopkins ei fod yn bosib y byddai'r bwrdd yn rhoi'r gorau i gynnal cysgodfeydd ysmygu ar eu safleoedd ond eu bod yn cydnabod y byddai'n cymryd amser i bobl dderbyn na allan nhw ysmygu ar dir ysbytai.

"Does neb yn derbyn fod cynnau sigarét mewn bwyty'n dderbyniol, ac o dipyn i beth rwy'n gobeithio na fydd unrhyw un yn ystyried cynnau sigarét yn ymyl cleifion."

Yn y cyfamser bydd Llywodraeth Cymru yn ymuno â'r elusen canser, Tenovus, i hybu eu hymgyrch Cychwyn Iach Cymru y tu allan i Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd ddydd Mercher.

Mae'r ymgyrch yn annog rhieni a gofalwyr beidio ag ysmygu mewn ceir pan fo plant yn bresennol.

Dywedodd Prif Swyddog Meddygol Cymru Dr Tony Jewell: "Un diwrnod yn unig yw Diwrnod Dim Smygu i dynnu sylw at ein hymgyrchoedd a'n strategaethau, a'r cymorth a gynigir i bobl sydd am roi'r gorau i smygu.

"Ond mae Llywodraeth Cymru wrthi'n gweithio'n barhaus i gyflawni'r nod o leihau nifer y bobl sy'n smygu i 16% erbyn 2020.

"Ein gweledigaeth yn y pen draw yw creu cymdeithas ddi-fwg yng Nghymru a chael gwared yn llwyr ar y niwed sy'n cael ei wneud gan dybaco.

"Nod uchelgeisiol yw hwn, ond mae Awstralia a Chaliffornia wedi llwyddo i sicrhau lleihad tebyg yn eu lefelau smygu.

"Mae cynllun gweithredu cyntaf Cymru ar reoli tybaco yn gam pwysig ymlaen yn yr ymgyrch hon, a sefydlwyd Bwrdd Cyflawni i fwrw ymlaen â'r gwaith."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol