Cofio Harri Pritchard Jones
- Cyhoeddwyd
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r awdur, y beirniad a'r seiciatrydd, Dr Harri Pritchard Jones fu farw yn 81 oed.
Roedd yn llenor, yn seiciatrydd blaenllaw, ac un o ddilynwyr selocaf y ffydd Gatholig - a'i farn yn cael ei holi'n aml am y pynciau hynny.
Nos Fercher fe roddodd sawl un deyrnged iddo.
Dywedodd yr Athro Richard Wyn Jones: "Chwith clywed am farwolaeth Harri Pritchard Jones. Gŵr gwaraidd, bonheddig. Coffa da amdano."
Meddai'r academydd o Brifysgol Abertawe Yr Athro Daniel G Williams: "Awdur a chenedlaetholwr (arall) (wedi) ein gadael. Eang ei ddiddordebau a'i ddylanwad. Wastad yn gefnogol a chraff."
'Colled fawr'
Dywedodd yr actor John Pierce Jones: "Newydd glywed y newyddion trist fod Harri Pritchard Jones wedi'n gadael ni. Colled fawr arall, dyn galluog a bonheddig, parod ei gefnogaeth."
Ymateb y bardd Peter Finch oedd: "Harri Pritchard Jones, nofelydd, llenor, ymladdwr dros yr achos llenyddol."
Ym Môn y cafodd Harri Pritchard Jones ei fagu er bod gwreiddiau'r teulu'n ddwfn yn nhir Eryri.
Chwarelwyr oedd ei deidiau ond gyrfa fel meddyg oedd yn galw Harri Pritchard Jones a hynny ar anogaeth ei dad.
Y ffydd Gatholig
Yng Ngholeg y Drindod yn Nulyn y cafodd ei hyfforddi, a dyma'r cyfnod y daeth i gysylltiad ag un arall o'r dylanwadau mawr - y ffydd Gatholig.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd Edwin Regan, Esgob Emeritws Wrecsam ac Offeiriad y Plwyf ym Mlaenau Ffestiniog: "Roedd yn ffrind mawr i mi ers y 60au, ac roedd yn drist iawn i glywed y newyddion am ei farwolaeth.
"Roedd yn fraint fawr i'w adnabod, ac roedd mor falch o fod yn Gatholig, ac yn dweud ei farn heb ofni beth oedd pobl yn ei feddwl amdano.
"Roedd yn hapus i hybu'r defnydd o'r iaith Gymraeg yn yr Eglwys, ac mae'n mynd i fod yn golled fawr i ni i gyd."
Roedd atyniad yr Ynys Werdd yn ei ddenu i'r rhan bellaf ohoni, Ynysoedd Aran, lle oedd yr iaith Wyddeleg yn rhan o'r hudoliaeth. Yn y fan honno, daeth yr ysgogiad i ddechrau ysgrifennu, gan arwain at gynhaeaf llenyddol fyddai'n cael ei gyfieithu i fwy na hanner dwsin o ieithoedd.
Ar ôl dychwelyd i Gymru fe barhaodd y gwaith meddygol yn Ysbyty Meddwl Hensol ger Caerdydd. Roedd Harri Pritchard Jones bellach yn briod ac yn dechrau magu teulu.
Roedd ei nofelau yn gyfoes, gan gynnwys Ysglyfaeth, nofel am helyntion Gogledd Iwerddon yn yr wythdegau.
Fe gafodd ei ddawn ei chydnabod wrth iddo ennill cadeiryddiaeth corff y llenorion, Yr Academi.
'Un o'r hoelion wyth'
Roedd dylanwad Eglwys Rhufain yn un a fyddai'n para am oes a bu galw arno i goffáu'r Pab - Ioan Pawl yr Ail, 10 mlynedd yn ôl.
Wrth gofio amdano, dywedodd Sue Roberts, Cydlynydd Cylch Catholig Cymru: "Roedd Harri yn berson arbennig ac yn gwmni hynod o ddifyr.
"Mi oedd yn drysorydd y cylch am flynyddoedd lawer. Yn wir, roedd yn un o hoelion wyth y gymuned yng Nghymru ac roedd yn braf gallu dibynnu arno am gyngor call bob amser."
'Yn rhyddfrydig'
Dywedodd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas: "Doedd 'na ddim ochr i Harri yn y modd roedd e'n trafod pethau.
"Roedd yn fodlon dweud pethau beirniadol hyd yn oed am y Pab ar wahanol adegau, oedd yn dangos ei fod yn Gatholig ond yn rhyddfrydig, Cymreig a rhyngwladol."
Mae'n gadael gweddw, Lenna, a thri o blant, Guto, Nia ac Illtud, yn ogystal â phedwar o wyrion.