Llywodraeth am atal ffracio nes bod prawf ei fod yn ddiogel
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi awgrymu eu bod nhw am geisio atal ffracio tan fod prawf ei fod yn ddiogel.
Dywedodd y llywodraeth y bydden nhw'n cefnogi cynnig Plaid Cymru yn galw ar weinidogion i wneud pob dim yn eu gallu i atal y dull o gasglu nwy siâl.
Yr wythnos diwethaf fe wnaeth Llywodraeth yr Alban atal ffracio wrth i ymchwil barhau.
Mae disgwyl i reolaeth dros ffracio gael ei datganoli i'r Alban ar ôl yr etholiad cyffredinol ym mis Mai.
Datganoli pwerau
Does dim cynlluniau penodol i ddatganoli'r pwerau i Gymru ond mae disgwyl i ganlyniad trafodaethau rhwng Aelodau Seneddol am ddatganoli pellach gael ei gyhoeddi fis nesaf.
Bydd cynnig yn cael ei drafod yn y Cynulliad brynhawn Mercher yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud pob dim y gallen nhw i atal ffracio rhag digwydd yng Nghymru tan fod prawf ei fod yn ddiogel i'r amgylchedd ac i iechyd cyhoeddus.
Mae'r cynnig hefyd yn galw am ddatganoli pwerau dros ffracio.