Grant i adfer cofebau rhyfel
- Cyhoeddwyd
Mae prosiect Rhyfel Byd Cyntaf i ddarganfod, cofnodi ac adfer holl gofebau rhyfel Powys wedi derbyn grant o £350,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri.
Nod y prosiect - sy'n cael ei arwain gan Gyngor Sir Powys - ydy edrych ar ôl y 276 cofeb rhyfel yn y sir - gan gynnwys 13 adeilad rhestredig.
Yn ogystal, mae'r ymgyrch yn gobeithio dod o hyd i'r rheiny sydd wedi eu colli neu anghofio.
Mae pecynnau cymorth wedi cael eu cynhyrchu ar gyfer cymunedau, ysgolion ac ymchwilwyr i helpu cymunedau ar hyd y sir gymryd cyfrifoldeb dros eu cofebau a'u diogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
'Cyfle gwych'
Dywedodd Jennifer Stewart, Pennaeth CDL yng Nghymru, "Rydym yn gweld y prosiect hwn fel cyfle gwych i ddatgelu'r gorffennol anghofiedig.
"Mae ein rhaglen Rhyfel Byd Cyntaf: Ddoe a Heddiw yn gyfle i bobl ar hyd a lled Cymru i ddysgu mwy am y Rhyfel Byd Cyntaf ac mae'r dull sir-gyfan yma'n ffordd wych i nid yn unig helpu pobl i ddysgu mwy am y rhan yma o'n treftadaeth ond rhoi'r sgiliau iddynt ddysgu am ac ymchwilio'r hanes eu hunain."