Ymchwiliad i achos Lynette White
- Cyhoeddwyd
Mae cyfreithiwr un o'r tri dyn gafodd eu carcharu ar gam am lofruddio putain o Gaerdydd wedi dweud y bydd y Gweinidog Cartref Theresa May yn cyhoeddi ymchwiliad i achos llys yn erbyn swyddogion Heddlu De Cymru ddaeth i ben heb ganlyniad yn 2011.
Cafodd Lynette White ei thrywanu dros 50 o weithiau mewn fflat yn ardal y dociau o Gaerdydd yn 1988 lle'r oedd hi'n gweithio.
Yn dilyn rhyddhau'r tri dyn, cafwyd achos llys yn erbyn swyddogion yr heddlu oedd yn wynebu honiadau o wyrdroi cwrs cyfiawnder. Fe gostiodd yr achos llys £30m cyn dod i ben.
Dywedodd y Swyddfa Gartref y byddai'n gwneud cyhoeddiad yn fuan.
Cafodd Lynette White, 20, ei llofruddio ar Ddydd Sant Ffolant, ac fe gafodd Tony Paris, Yusef Abdullahi a Stephen Miller eu carcharu ar gam yn 1990, cyn cael eu rhyddhau yn 1992 ar apêl.
Yn 2003 fe arweiniodd technoleg DNA Heddlu De Cymru at y llofrudd - Jeffrey Gafoor. Fe gyfaddefodd iddo ei thrywanu o achos ffrae dros £30.
Cafodd 12 cyn-swyddog heddlu gyda Heddlu De Cymru eu cyhuddo o wyrdroi cwrs cyfiawnder - ond daeth yr achos llys yn erbyn wyth o'r dynion i ben heb unrhyw ganlyniad yn 2011.
Dywedodd y cyfreithiwr Matthew Gold, sydd yn gweithredu ar ran Stephen Miller, eu bod wedi cael clywed ar 4 Chwefror y bydd yr ymchwiliad yn dechrau ar 2 Mawrth.
Y bargyfreithiwr Richard Horwell QC fydd yn arwain yr ymchwiliad yn ôl Mr Gold.