Trafod dyfodol ysgol Gymraeg

  • Cyhoeddwyd
bbc
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth yr ysgol symud i Stonebridge yn 2000

Bydd llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Llundain yn cyfarfod dydd Iau ac ymhlith y pynciau trafod bydd lleoliad yr ysgol yn y dyfodol.

Ar hyn o bryd mae'r ysgol ar safle yn Shakespeare Avenue, Stonebridge gogledd Llundain, ac yn ymyl ysgol cyfrwng Saesneg.

Mae'r ysgol arall am ehangu, ac mae Cyngor Brent wedi bod yn ceisio cynorthwyo'r ysgol Gymraeg i ddod o hyd i safle newydd.

Un o'r safleoedd dan sylw ar gyfer ysgol newydd yw safle hen glwb bowlio yn Park Lane, Brent.

Ond mae rhai trigolion lleol yn gwrthwynebu, gan y byddai'r cynllun hefyd yn golygu estyn yr adeilad presennol.

Mae disgwyl i Gyngor Brent ddod i benderfyniad ar y cais i addasu'r adeilad a sefydlu ysgol newydd ar Fawrth 4.

Dywedodd llefarydd ar ran Ysgol Gymraeg Llundain fod Cyngor Brent wedi bod yn gefnogol iawn hyd yma.

"Ond yn ogystal â'r safle yn Park Lane, mae'r ysgol yn ystyried nifer o safleoedd eraill.

"Er ein bod yn gorfod dod o hyd i safle newydd does yna ddim pryder ynglŷn â dyfodol y sefydliad fel ysgol."

Ysgol Gymraeg Llundain yw'r unig ysgol Gymraeg yn Lloegr ac ar hyn o bryd mae tua 30 o ddisgyblion rhwng 3 ac 11 oed yno.

Mae hanes addysg Gymraeg yn Llundain yn dyddio nol i 1955.