Cymry'r Oscars
- Cyhoeddwyd
Bydd sêr byd y ffilmiau ar y carped coch nos Sul 28 Chwefror ar gyfer seremoni wobrwyo flynyddol yr Oscars. Ond wyddoch chi faint o Gymry sydd wedi cipio'r ddelw aur neu ddod yn agos at ennill un?
Enillodd Ray Milland (Alfred Reginald Jones) o Gastell-Nedd Oscar yn 1946 am ei berfformiad yn 'The Lost Weekend'. Mabwysiadodd Milland ei gyfenw ar ôl stryd ger ei gartref.
Ffaith ddiddorol: Araith Ray Milland oedd y byrraf erioed mewn seremoni Oscars. Y cwbl wnaeth e oedd moesymgrymu i'r gynulleidfa wrth dderbyn ei wobr!
Yn 1959 Hugh Griffith o Ynys Môn oedd yn fuddugol yng nghategori'r Actor Cynorthwyol am ei ran fel Sheik Ilderim yn y ffilm 'Ben Hur'.
Ffaith ddiddorol: Hugh Griffith ydi'r unig siaradwr Cymraeg i ennill Oscar... hyd yn hyn!
Yn 1942 cafodd ffilm wedi ei lleoli yng Nghymru ei gwobrwyo. Cafodd 'How Green Was My Valley' ei henwebu am 10 Oscar, ac ennill 5, gan gynnwys y Cyfarwyddwr Gorau a'r Ffilm Orau.
Ffaith ddiddorol: Er mai cymunedau glofaol de Cymru yw canolbwynt y stori, yn Califfornia y cafodd yr holl olygfeydd eu ffilmio.
Cafodd Richard Burton (Richard Walter Jenkins) o Bontrhydyfen ei enwebu saith o weithiau, ond chafodd o erioed y cyfle i gyflwyno araith wrth dderbyn y ddelw aur! Daeth ei enwebiad cyntaf am 'My Cousin Rachel' yn 1952, a'i enwebiad olaf am 'Equus' yn 1977.
Ffaith ddiddorol: Mi briododd Burton yr actores Elizabeth Taylor ddwywaith, ac yn eironig fe enillodd hi ddwy Oscar. Hi oedd yr Actores Orau am ei rhan yn 'Who's Afraid of Virginia Woolf?' ac er i Burton gael ei enwebu am yr Actor Gorau yn yr un ffilm dim ond un delw aur ddaeth adref gyda nhw!
Yn 1963 cafodd Rachel Roberts o Lanelli ei henwebu am wobr yr Actores Orau am ei pherfformiad yn 'This Sporting Life'. Yn 53 oed fe laddodd ei hun yn Los Angeles ar 26 Tachwedd 1980 ar ôl brwydro gydag alcoholiaeth.
Ffaith ddiddorol: Er ei bod hi'n actores dalentog roedd yna ansicrwydd yn perthyn i'r Gymraes. Wrth ymweld â set 'Cleopatra' i weld ei gŵr, yr actor Rex Harrison, dywedodd:
"Roedd Elizabeth Taylor yn cynnal parti mawr. Doeddwn i ddim yn gallu mynd. Roedd gen i ormod o gywilydd o sut yr o'n i'n edrych i fod yn bresennol."
Cafodd Anthony Hopkins flas ar y seremoni yn 1992 trwy gipio'r wobr i'r Actor Gorau am ei rôl fythgofiadwy fel Hannibal Lecter yn 'The Silence of The Lambs'. Ers ei lwyddiant mae'r Cymro o Bort Talbot wedi ei enwebu deirgwaith am wobr arall ond dydi o ddim wedi ennill ail gerflun... eto.
Ffaith ddiddorol: Cafodd Anthony Hopkins ei ysbrydoli i fod yn actor ar ôl cwrdd ag un o feibion enwoca'r ardal pan yn fachgen ifanc:
"Mi gerddais i tuag at Richard Burton yn Heol Caradoc, Taibach. Roedd e gyda'i wraig Cybil ac ar y ffordd i weld gêm rygbi ryngwladol ym Mharc yr Arfau ond fe gym'rodd e amser i siarad 'da fi. Yr eildro i mi ei gyfarfod oedd yn Efrog Newydd, roedden ni'n dau yn perfformio mewn dramâu yno... Mi gawson ni sgwrs dda am Bort Talbot bryd hynny!"
Yn 1993 'Hedd Wyn' oedd y ffilm Gymraeg gyntaf i gael ei henwebu am Oscar. Huw Garmon oedd yn chwarae rhan y prif gymeriad, Ellis Humphrey Evans (Hedd Wyn), y bardd o Drawsfynydd.
Ffaith ddiddorol: Sue Roderick oedd yn chwarae rhan cariad Hedd Wyn (Huw Garmon) yn y ffilm. Yn ddiweddarach bu Sue ('Casi Morris') yn chwarae mam Huw Garmon ('Steffan') yn Pobol y Cwm!
Mi enillodd Lindy Hemming o Sir Gaerfyrddin Oscar y Cynllunydd Gwisgoedd Gorau am ei gwaith ar 'Topsy Turvy' yn 1999.
Ffaith ddiddorol: Mae Lindy hefyd wedi gweithio ar ffilmiau James Bond, Harry Potter, a'r ffilmiau Batman: Batman Begins, The Dark Knight a The Dark Knight Rises.
'Solomon a Gaenor' oedd yr ail ffilm Gymraeg i'w henwebu am Oscar, yn 2000. Mae'r ffilm wedi'i gosod yn ystod terfysgoedd gwrth-Semitig yn ne Cymru yn 1911, gyda pherthynas gymhleth Iddew ifanc (Ioan Gruffudd) a'i gariad (Nia Roberts).
Ffaith ddiddorol: Mi gafodd Ioan Gruffudd berthynas agos gydag Oscar unwaith. Roedd yn chwarae rhan John Gray, un o gariadon Oscar Wilde (Stephen Fry), yn y ffilm 'Wilde'.
Enillodd Catherine Zeta-Jones y wobr i'r Actores Gynorthwyol Orau yn 2003 am ei rhan fel Velma Kelly yn 'Chicago'.
Ffaith ddiddorol: Mi enillodd rieni Catherine £100,000 trwy chwarae bingo yn yr 80au gan eu galluogi i roi hwb i yrfa eu merch dalentog.