Tŷ'r Cwmnïau yn torri'r Ddeddf Diogelu Data yn 2014
- Cyhoeddwyd
Cafodd manylion cyfrinachol a phersonol eu hanfon at bobl anghywir gan staff yn Nhŷ'r Cwmnïau yn 2014.
Torrwyd y Ddeddf Diogelu Data 13 o weithiau yn ei bencadlys yng Nghaerdydd, yn ôl ymateb i gais BBC Cymru o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth.
Cafodd cyfeiriad cartref cyfarwyddwr ei roi ar y gofrestr gyhoeddus ar ôl "cymysgu tudalennau dogfennau yn ystod y broses sganio".
Yn ogystal, sganiwyd gohebiaeth i'r gofrestr trwy gamgymeriad.
Caniataodd system adnoddau dynol newydd i staff gael gweld gwybodaeth am hyd absenoldebau salwch cydweithwyr.
'Proses yn ei lle'
Mewn datganiad, dywedodd yr asiantaeth weithredol, sy'n cael ei noddi gan yr Adran Busnes, Arloesi a Sgiliau yn Llundain, "pan fod toriad yn digwydd o'r Ddeddf Diogelu Data, mae gan Dŷ'r Cwmnïau broses yn ei lle y mae disgwyl i staff ei dilyn".
Mae 904 o bobl yn gweithio yn Nhŷ'r Cwmnïau yng Nghaerdydd ar hyn o bryd, yn cofrestru'r wybodaeth y mae'n rhaid i gwmnïau ddarparu yn ôl y gyfraith.
Fis diwethaf, fe wnaeth llys benderfynu bod dyletswydd gofal ar Dŷ'r Cwmnïau i sicrhau bod y manylion cywir yn cael eu nodi pan mae cwmni'n cael ei ddirwyn i ben.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ionawr 2015
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2013