Dr John Davies wedi marw

  • Cyhoeddwyd
john davies

Yn 76 oed bu farw'r hanesydd a'r darlledwr Dr John Davies.

Roedd yn un o haneswyr amlyca'r wlad ac mae ei gyfrol Hanes Cymru, gafodd ei chyhoeddi gyntaf yn 1990 gydag ail argraffiad yn 2006, wedi'i disgrifio fel y cofnod mwyaf cynhwysfawr o hanes y genedl.

Mae'n gadael gwraig, Janet Davies, pedwar o blant a nifer o wyrion.

Cyhoeddodd nifer o gyfrolau ac roedd yn un o olygyddion Gwyddoniadur Cymru.

Yn frodor o Dreorci yng Nghwm Rhondda fe symudodd gyda'i deulu i bentre Bwlch Llan yng Ngheredigion ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd ac roedd llawer yn ei alw'n John Bwlch Llan.

Ar ôl astudio ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd, a Choleg y Drindod, Caergrawnt, roedd yn darlithio ym mhrifysgolion Abertawe - ac Aberystwyth ble oedd yn Warden Neuadd Pantycelyn am 18 mlynedd.

Disgrifiad,

Cofio John Davies

Roedd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn y chwedegau.

Yn ddarlledwr poblogaidd, roedd yn Gymrawd yr Academi. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2010 gyda'i gyfrol Cymru: Y 100 lle i'w gweld cyn marw.

Ymhlith ei lyfrau eraill, mae hanes teulu Ardalydd Bute a Chaerdydd, a hanes y BBC yng Nghymru.

'Rhyddid'

Roedd Cynog Dafis yn ffrind agos ers iddyn nhw gyfarfod yn ysgol haf Plaid Cymru yn Llangefni yn 1959.

"Roedd rhyddid yn bwysig iawn i John, roedd yn genedlaetholwr, yn sosialydd, ond yn fwy 'na dim roedd rhyddfrydiaeth yn bwysig iddo ... dyna pam oedd e mor hoff o fyw yn Grangetown (Caerdydd) lle mae'na gymysgedd fawr o bobl wahanol yn byw.

"Roedd ganddo deimladau cryf ynglŷn â chrefydd a phobl y capeli, gan eu bod yn meddwl fod y bobl rheini yn barnu, ac roedd rhyddid oddi wrth y math yna o beth yn bwysig iawn i John.

Ffynhonnell y llun, Emyr Young Tel 07980861776

"Roedd gan John gof anhygoel, ac roedd ganddo'r gallu i ddehongli ..., yn enwedig dehongli cymdeithas mewn gwahanol gyfnodau mewn hanes."

Dywedodd y newyddiadurwr Huw Edwards: "Yr oedd John yn ddyn o allu anghyffredin, yn fynydd o wybodaeth am ystod eang iawn o bynciau.

"Fel hanesydd poblogaidd roedd ganddo'r gallu arbennig i gyfleu neges mewn ffordd fywiog a gafaelgar - yn y ddwy iaith - ac fe brofwyd hynny yn ddiamheuol gan ei gyfrol wych a chynhwysfawr, Hanes Cymru.

"Roedd yn gymeriad lliwgar ac yn gwmni difyr."

Dywedodd Sel Jones, Is-gadeirydd Cymdeithas yr Iaith: "Bu cyfraniad John i'n hiaith, a'r mudiad cenedlaethol yn gyffredinol, yn amhrisiadwy.

'Athrylith'

"Mi oedd yn athrylith, ysgolhaig, cofnodydd hanes ei bobl oedd â'i draed ar y ddaear. Bydd colled enbyd ar ei ôl.

"Fel ein hysgrifennydd cyntaf, fo oedd yn gyfrifol am sefydlu ein mudiad ond, yn bwysicach na hynny, fe ysbrydolodd genhedlaeth newydd o ymgyrchwyr iaith, pobl sydd wedi llwyddo cadw'n hiaith yn fyw.

"Mae'n cydymdeimladau gyda'i deulu a'i gyfeillion heddiw ond bydd ein dyled i John - fel ymgyrchwyr iaith ac fel pobl - yn para am byth."

'Cof cenedl'

Roedd yr awdur a'r newyddiadurwr Jon Gower yn gyfaill agos. "Ry'n ni wedi colli nid jyst dyn ond cof cenedl," meddai.

"Alla i ddim meddwl am neb gwell i gael peint neu gael glasied neu botel win gyda fe. Roedd na 'joie de vivre' anhygoel yn perthyn i`r dyn."

Dywedod yr Athro Richard Wyn Jones, y byddai John Davies yn cael ei gofio nid yn unig fel un o haneswyr mwyaf ei genhedlaeth, ond fel un o Gymry mwyaf dylanwadol ein hoes.

"Go brin fod 'na unrhyw un wedi gwneud mwy i sicrhau ein bod ni fel pobl yn ymwybodol o'n hanes. Petai hynny ddim yn ddigon, roedd o hefyd yn un o sylfaenwyr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ac yn ddylanwad mawr ar genedlaethau o arweinwyr cymunedol a chenedlaethol Cymreig trwy ei waith fel Warden Neuadd Pantycelyn yn Aberystwyth.

"Yn enwog trwy'r wlad am ei ffraethineb a'i wybodaeth ddihysbydd, roedd o'n un o gymeriadau mawr ein bywyd cenedlaethol. Bydd colled fawr iawn ar ei ôl."

Ffynhonnell y llun, Kevin Davies

"Mae'r gyfrol yn glasur, yn ffrwyth dealltwriaeth academaidd ddofn o'r pwnc ond hefyd yn gyflwyniad hawdd-mynd-ato a llithrig ei iaith, ac yr un mor llwyddiannus yn y cyfieithiad Saesneg gwerthfawr a gafwyd maes o law.

"Mae'n ddarllen hanfodol i unrhyw un sydd am ddeall Cymru. Fe fydd y bwlch ar ôl 'Bwlch Llan' yn un anferth."

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Rydw i wedi fy nhristáu o glywed am farwolaeth Dr John Davies. Bydd yn cael ei gofio fel un o'n haneswyr mwyaf gyda gwybodaeth eang am hanes Cymru, gwybodaeth roedd yn falch o'i rhannu drwy ddysgu, ysgrifennu a darlledu.

"Bydd colled fawr ar ei ôl."

Os hoffech chi roi teyrnged i Dr John Davies ebostiwch cymrufyw@bbc.co.uk .