Ymgynghori: Ad-drefnu ysgolion yn Y Bala
- Cyhoeddwyd

Fe allai tair ysgol gau yn y dre er mwyn creu un ysgol newydd ar safle Ysgol y Berwyn
Mae Cabinet Cyngor Gwynedd wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad am ad-drefnu ysgolion yn ardal Y Bala.
Y bwriad yw cau Ysgol y Berwyn, Ysgol Beuno Sant ac Ysgol Bro Tegid yn y dre a chreu ysgol ar gyfer plant rhwng tair ac 19 oed ar safle Ysgol y Berwyn.
Bydd ysgol ffederal yn cael ei sefydlu wrth i Ysgol OM Edwards yn Llanuwchllyn, Ysgol Bro Tryweryn yn Frongoch ac Ysgol Ffridd y Llyn yng Nghefnddwysarn gyfuno.
Yr amcangyfri yw bod y cynlluniau, sy' ar y gweill ers 2009, yn costio mwy na £9m a bydd penderfyniad terfynol ym mis Medi.
Mae disgwyl y bydd y campws newydd yn Y Bala yn agor ym Medi 2018.
Cyn cyfarfod y cabinet dywedodd Gareth Thomas, yr aelod dros addysg: "Nid yw'r sefyllfa bresennol yn ardal y Bala yn gynaliadwy - mae nifer y disgyblion wedi gostwng dros y 25 mlynedd diwethaf a rhai ysgolion gyda hanner eu dosbarthiadau'n wag."