350 o bobl mewn gwylnos i fachgen sydd ar goll
- Cyhoeddwyd

Torf wedi ymgynull ar gyfer gwylnos ar Bont King Morgan yng Nghaerfyrddin
Mae gwylnos wedi cael ei gynnal yng Nghaerfyrddin ar gyfer y bachgen ysgol Cameron Comey, sydd ar goll ers dydd Mawrth.
Daeth tua 350 o bobl ynghyd i oleuo canhwyllau o obaith ar gyfer y bachgen 11 oed, a syrthiodd i mewn i'r Afon Tywi wrth chwarae gyda'i frawd.
Cynhaliwyd y seremoni ar Bont King Morgan nos Sul wrth i'r chweched dydd o chwilio am Cameron ddod i ben.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys, bydd y chwilio yn ailddechrau fore Llun.
Roedd aelodau o deulu Cameron hefyd yn bresennol yn y wylnos.

Cafodd canwyllau eu cynna gan aelodau o deulu Cameron.
Dywedodd trefnydd yr wylnos, Jenny Fox: "Dwi jyst yn teimlo fod angen i ni ddod at ei gilydd fel cymuned.
"Roedd angen i ni wneud ymdrech ar gyfer y teulu a dangos ein cefnogaeth."
Mae'r seremoni yn dilyn gwasanaeth yn Eglwys San Pedr yng Nghaerfyrddin ddydd Gwener, lle ddaeth dros 140 o bobl, gan gynnwys cynrychiolwyr o'r gwasanaethau brys ac Ysgol Uwchradd Y Frenhines Elizabeth (ysgol Cameron) ynghyd.

Fe aeth Cameron ar goll tra'n chwarae efo'i frawd ddydd Mawrth.

Roedd pobl yn defnyddio eu ffonau symudol yn ogystal â chanhwyllau yn y wylnos.

Roedd y chwilio yn parhau ddydd Sul er gwaethaf amodau tywydd garw.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Chwefror 2015