Chwilio yn parhau ar y chweched diwrnod

  • Cyhoeddwyd
Cameron ComeyFfynhonnell y llun, Heddlu
Disgrifiad o’r llun,

Does neb wedi gweld Cameron Comey ers prynhawn Mawrth

Mae'r gwasanaethau brys wedi dechrau chwilio ar y chweched dydd ers i'r bachgen 11 oed fynd ar goll yng Nghaerfyrddin.

Cafodd Cameron Comey ei weld ddiwethaf yn chwarae ger Afon Tywi yn ardal Tanerdy o dre Caerfyrddin brynhawn Mawrth gyda'i frawd.

Mae aelodau o'r cyhoedd wedi cael eu gwahodd i gynnau cannwyll i feddwl am Cameron ar Bont y Brenin Morgan nos Sul.

Bu arweinwyr crefyddol ardal Caerfyrddin yn cynnal cyfarfod o weddi a goleuo canhwyllau fore Gwener i feddwl am Cameron Comey.

Roedd dros 140 o bobl yn y gwasanaeth yn Eglwys Sant Pedr, Caerfyrddin, yn cynnwys aelodau o'r gwasanaethau brys sydd wedi bod yn rhan o'r chwilio yn y dyddiau diwethaf.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd dros 140 o bobl yn y gwasanaeth yn Eglwys Sant Pedr, Caerfyrddin

Cafodd plymwyr Heddlu De Cymru eu galw i'r digwyddiad am y tro cyntaf ddydd Iau i chwilio'r afon.

Mae'r heddlu yn dweud eu bod yn canolbwyntio eu chwilio ar y man ble credir i'r bachgen ddisgyn i'r afon yn Nhanerdy, ond eu bod nhw'n parhau i ymchwilio i bosibiliadau eraill gan nad ydyn nhw'n hollol sicr.

Dywedodd yr Arolygydd Eric Evans eu bod hefyd wedi chwilio yn agos i gartref y bachgen.

Ffynhonnell y llun, Wales News Service
Disgrifiad o’r llun,

Gwylwyr y glannau yn paratoi ar gyfer y chwilio ddydd Mercher

Ffynhonnell y llun, Athena
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Arolygydd Eric Evans bod yr heddlu yn chwilio mewn sawl safle