Cyfraith newydd i reoleiddio gofal cymdeithasol Cymru

  • Cyhoeddwyd
Gofal cymdeithasolFfynhonnell y llun, Science Photo Library
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd y Bil yn cael ei gyflwyno gerbron y Cynulliad gan y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford

Mae cyfarwyddwr un o ddarparwyr gofal cymdeithasol mwyaf blaenllaw Cymru wedi dweud nad ydi'r drefn arolygu bresennol ar gyfer y sector yn addas bellach.

Daw sylwadau Anne Thomas o Gofal Linc wrth i Lywodraeth Cymru baratoi i gyhoeddi eu cynlluniau i ddiweddaru'r system o reoleiddio perchnogion cartrefi gofal.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd perchnogion cartrefi gofal yn fwy atebol am eu gwasanaethau o dan gyfraith newydd i gryfhau'r drefn ar gyfer amddiffyn plant ac oedolion.

Nod y gyfraith newydd yw gwella ansawdd gofal a chymorth yng Nghymru.

Gwersi a ddysgwyd o sgandalau yn y gorffennol yn ymwneud â gofal gwael, fel yn Swydd Stafford ac Ymchwiliad Jasmine sy'n sail ar gyfer Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru).

Fe fydd y mesur yn cael ei gyflwyno ddydd Mawrth gan y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford.

Ail-gydbwyso atebolrwydd

Mae'r ffigurau diweddaraf yng Nghymru yn dangos bod 1,780 o leoliadau gofal a chymorth cymdeithasol o fewn cwmpas y drefn reoleiddio gyfredol a bod mwy na 70,000 o staff yn gweithio yn y sector.

Gobaith y Bil yw ail-gydbwyso atebolrwydd yn y system, gan dynnu ffocws oddi ar y rheiny sy'n gweithio ar y rheng flaen, a chanolbwyntio mwy ar gyflogwyr, perchnogion a chyfarwyddwyr cwmnïau.

Fe fydd gofyn i bob darparwr gwasanaeth enwebu perchennog neu aelod o'r bwrdd fel "unigolyn cyfrifol" wrth gofrestru, gan sicrhau cadwyn eglur o atebolrwydd priodol rhwng y bwrdd a'r rheng flaen.

Hefyd, fe fydd y Bil yn newid y ffordd y bydd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru yn rheoleiddio, ac yn symud pwyslais y drefn reoleiddio oddi wrth safonau gofynnol i bwyslais ar ganlyniadau.

'Cam nesaf'

Dywedodd Mr Drakeford: "Mae'r gwaith o ddarparu gofal cymdeithasol wedi newid yn sylweddol dros y 15 mlynedd diwethaf, gyda llawer mwy o bobl yn cael gofal yn y gymuned.

"Hefyd, mae gan bobl sy'n byw mewn gofal preswyl anghenion iechyd a gofal mwy cymhleth na oedd ganddynt 15 mlynedd yn ôl.

"Mae ein Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant wedi trawsnewid sylfaen ein gwasanaethau cymdeithasol, a nawr mae angen newid y system reoleiddio i adlewyrchu hyn.

"Mae angen i ni sicrhau bod ein trefn reoleiddio yn adlewyrchu arferion cyfoes a'r newidiadau sy'n digwydd o hyd ym myd gofal cymdeithasol.

"Mae gofal a chymorth o ansawdd uchel yn golygu mwy na dim ond diwallu anghenion hanfodol a safonau gofynnol - mae'n fater o ddeall effaith y gwasanaethau hyn ar fywydau ac ar lesiant pobl.

"Y Bil newydd hwn yw'r cam nesaf o ran sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn gynaliadwy ac yn addas at y dyfodol."

'Lleiafswm safon'

Mae Ms Thomas o Gofal Linc yn croesawu'r newid i'r drefn bresennol: "Ar y funud mae'n cael ei alw yn 'lleiafswm safon', ac mae hynny'n gyrru'r neges anghywir i unrhyw un sydd â diddordeb mewn iechyd a gofal pobl hŷn.

"Mae lefel craffter a dibyniaeth mewn cartrefi gofal wedi newid yn fawr dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r rheolaeth bresennol yn canolbwyntio ar y pethau anghywir, felly mae'n dda cael rhywbeth sy'n edrych ar y math o dystiolaeth rydyn ni angen i ddangos ein bod yn gofalu am bobl yn dda."