23 o athrawon Ysgol Penweddig yn streicio am dridiau
- Cyhoeddwyd
Mae 23 o athrawon Ysgol Penweddig, Aberystwyth yn dechrau ar streic dridiau fore Mawrth am eu bod nhw'n anfodlon gyda'r penderfyniad i ddiswyddo aelod o staff.
Dim ond disgyblion blynyddoedd 11 i 13 fydd yn cael eu dysgu yno dros gyfnod y gweithredu.
Roedd y streic yn wreiddiol wedi'i threfnu ar gyfer 9 Ionawr, ond penderfynodd NASUWT, yr undeb athrawon mwyaf yng Nghymru, i beidio gofyn i'w haelodau streicio ar ôl "datblygiad digonol" yn eu trafodaethau gyda'r awdurdod lleol.
Ond mae'r undeb wedi penderfynu gweithredu'n ddiwydiannol gan eu bod yn siomedig na chafodd cyfarfod ei drefnu rhwng y cyngor a NASUWT i drafod y mater.
Mae aelodau'r undeb yn anfodlon gyda'r ffordd y cafodd aelod o staff ei symud o'i waith, a'r broses ddisgyblu a ddilynodd.
Mae 23 o athrawon yn gyfystyr â thua hanner athrawon yr ysgol, ac fe fydd yr ysgol ynghau i ddisgyblion o flwyddyn saith i flwyddyn 10 am y tridiau nesaf.
'Gobeithio ei osgoi'
Yn ôl Prif Ysgrifennydd NASUWT, Chris Keates, mae'n siom eu bod wedi gorfod cymryd y cam hwn, ond nad oedd dewis arall.
Dywedodd: "Mae'r undeb wedi gwneud popeth posib i roi diwedd ar yr anghydfod yma.
"Rydyn ni'n difaru unrhyw amhariad y bydd yn achosi i ddisgyblion a rhieni. Roedd hyn yn rhywbeth roedden ni wedi gobeithio ei osgoi."
Yn ôl Ysgol Penweddig a Chyngor Ceredigion, maen nhw wedi eu siomi'n fawr gyda'r penderfyniad i weithredu'n ddiwydiannol, ac yn dweud fod y streic yn ddiangen.
Maen nhw'n mynnu bod y polisïau a'r prosesau cywir wedi cael eu dilyn wrth gynnal y broses ddisgyblu.