'Dim Byd' i'w weld!
- Cyhoeddwyd
Y tu ôl i bob menter lwyddiannus mae rhywun yn gyrru'r llwyddiant ymlaen.
'Dim Byd' yw un o'r rhaglenni comedi mwyaf poblogaidd sydd wedi ymddangos ar S4C yn ddiweddar ond pwy sydd yn gyfrifol am yr hiwmor cyflym, swrreal?
Yn ddiarwybod i lawer, y gyriant pennaf yw Barry 'Archie' Jones sydd yn adnabyddus i ddilynwyr cerddoriaeth Cymraeg fel aelod o'r band Celt.
Archie sydd yn cynhyrchu, sgriptio ac yn gyfrifol am fodolaeth y rhaglen ers y dechrau. Yn hynny o beth 'Dim Byd', dolen allanol yw ei faban bach ac wrth reswm yn un mae'n falch iawn ohono.
Dechreuodd ei yrfa sgriptio trwy anfon ambell i syniad ar gyfer y gyfres 'Cnex', dolen allanol. Yn fuan, cafodd gytundeb chwe mis i ysgrifennu sgetsus ar gyfer y gyfres, cyn mynd yn ei flaen i gynhyrchu'r sioe.
Rhyw ffordd, llwyddodd Cymru Fyw i ddarganfod bwlch yn ei ddyddiadur:
Pa gymeriadau newydd fydd yn y gyfres hon?
"Un o'r cymeriadau newydd fydd gang o ddihirod o Gaernarfon o'r enw Reservoir Gogs, a'r tro hwn, mae gan y Tad Maximillian stori sy'n rhedeg drwy'r gyfres - fel rhyw fath o opera sebon."
Ydy 'Dim Byd' yn ddatblygiad o 'Cnex', neu'n ymgais i fynd mor bell a phosib oddi wrtho?
"Roedd 'Cnex', dolen allanol yn raglen oedd yn tynnu blewyn o drwyn pobl adnabyddus Cymru ac yn trio bod yn gyfredol pan oedd deadlines yn caniatáu. Wrth ei wylio roedd yn rhaid gwybod rhywfaint am pwy oedd pwy a be' oedd yn digwydd yn y byd Cymreig... y bwriad efo 'Dim Byd' oedd gwneud rhaglen gomedi ble yr unig beth oedd ei angen i ddeall y jôc oedd dealltwriaeth ddigonol o'r iaith Gymraeg."
Sut wnes di ddyfeisio strwythur 'Dim Byd'?
"Roedd y syniad o wneud rhaglen gyda bwydlen 'Sky' yn rhan ohono wedi cael ei drafod rhyngtha i ac uwch gynhyrchydd 'Cnex'. Pan ddwedodd S4C eu bod yn chwilio am raglen gomedi i blant o'n i'n meddwl fod o'n le da i gychwyn gan bod plant yn tueddu i newid sianel yn amlach nag oedolion."
Pa mor anodd yw hi i osgoi'r demtasiwn o chwyddo jôc rhyw eiliad neu ddwy yn ormod?
"Fel sgriptiwr a chynhyrchydd mae Sion, sy'n golygu 'Dim Byd', yn hunllef i weithio efo fo. Mae sgetsus dwi'n eu gweld yn para' am 60 eiliad i lawr i 10 eiliad ar ôl i Sion gael gafael arnyn nhw a dwi'n gorfod sgwennu mwy! Ond yn y diwedd 'da ni'n cael rhaglen sy'n llawn syniadau gwahanol a gall hynny ond fod yn beth da."
Pa un sydd yn dod gyntaf... y jôc neu'r clip?
"Efo'r clipiau archif does dim jôc fel y cyfryw,jest llinell gyffredin mae'r person yn ei ddweud. Ond os ti'n ei gymryd o allan o'i gyd-destun mae o'n gallu swnio'n eitha random! Weithiau mae clip yn cymryd bywyd newydd ar ôl ei roi yn y rhaglen.
"Daeth y syniad am y Tad Maximillian, dolen allanol wrth i ni drafod y ffilmiau a rhaglenni plant o dramor roedd S4C yn arfer eu dangos yn nyddiau cynnar y sianel. Roedd o'n amlwg nad yng Nghymru oedd y ffilmiau 'ma wedi eu saethu oherwydd y cefndiroedd ac roedd y trosleisio ar brydiau yn warthus o wael. Felly 'natho ni weld pa mor bell fysa ni'n gallu mynd â'r syniad yna, a phan ddaru ni dod ar draws y ffilm arbennig yma o Nigeria, roedden ni'n gwybod mai hwn oedd yr un."
Oedd hi'n fwriad defnyddio wynebau newydd o'r cychwyn neu a'i prinder cyllid oedd y rheswm?
"Roedd o'n fwriad pendant i ddefnyddio pobl gyffredin fel rhan ganolog o 'Dim Byd'. O'n i'n teimlo os oedda' ni am drio creu realiti mewn sgetsus, roedd rhaid cael gwyneb fyddai pobl yn ei gredu. Fyddai'r jôc ddim wedi gweithio efo actor neu actores oedd wedi bod ar 'Pobol y Cwm' fis ynghynt. Ond wrth i'r gyfres fynd yn ei blaen o'n i'n ymwybol o'r ffaith bod peryg ein bod ni'n dwyn gwaith oddi ar actorion a pherfformwyr proffesiynol. Felly ddechreuon ni ddefnyddio rhagor o actorion yn y gyfres ddiwethaf, ond eu bod nhw yn chwarae nhw eu hunain yn hytrach na chwarae rhan cymeriad."
Beth sydd nesaf i Archie a 'Dim Byd'?
"Eistedd mewn swyddfa yn edrych ar y wal, yn trio meddwl lle gall y gyfres fynd nesa'..."