Cyhoeddi cynllun dyfodol rheilffyrdd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae Network Rail wedi cyhoeddi cynlluniau moderneiddio oherwydd y twf disgwyliedig mewn siwrneiau teithwyr a chludiant yng Nghymru.
Ymysg yr opsiynau yn nrafft Arolwg Llwybrau Cymru mae ailddatblygu gorsaf Caerdydd Canolog a chynlluniau i foderneiddio'r rheilffordd yng ngogledd Cymru.
Mae'r arolwg yn trafod opsiynau Network Rail i wella'r rheilffyrdd yng Nghymru dros y 30 mlynedd nesaf ac mae wedi cael ei ddatblygu gyda Llywodraeth Cymru, yr Adran Drafnidiaeth a'r cwmnïau trenau.
Dywedodd Tim James, Pennaeth Strategaeth a Chynllunio Network Rail Cymru: "Mae ein rheilffordd yn cludo bron i 50% yn fwy o deithwyr nag yr oedden ni 10 mlynedd yn ôl, ac mae disgwyl i hynny gynyddu'n sylweddol yn y blynyddoedd nesaf.
"Fe fydd y gwaith sydd wedi ei drefnu ar gyfer y pum mlynedd nesaf yn gwneud gwahaniaeth enfawr, yn cynnwys trydaneiddio rhannau o'r rheilffordd a gwella arwyddion i wella dibynadwyedd.
"Mae mwy i'w wneud oherwydd y galw yn y dyfodol."
Opsiynau
Mae'r opsiynau ar gyfer buddsoddiadau'r cyfnod 2019 i 2024, yn cynnwys:
Ailddatblygu gorsaf Caerdydd Canolog;
Moderneiddio'r rheilffordd o Crewe i Gaergybi;
Lle ar gyfer mwy o deithwyr i'r Cymoedd;
Datblygiad pellach ar gyfer cynnig Metro Caerdydd;
Gwella cyflymder trenau rhwng Afon Hafren a Chaerdydd;
Cau croesfannau rheilffordd yng ngorllewin Cymru;
Mwy o wasanaethau ar reilfordd Calon Cymru;
Gorsaf newydd Shotton, Sir y Fflint.
Mae'r arolwg yn trafod y strategaeth hir-dymor hyd at 2043, yn adeiladu ar yr hyn sydd wedi ei awgrymu erbyn 2024.
Dogfen ymgynghori yw'r drafft a dylai'r cyhoedd roi eu barn cyn i'r cyfnod ymgynghori orffen ar 9 Mehefin.

Y twf sy'n cael ei ragweld o ran teithwyr o Gaerdydd i Lundain

Y twf sy'n cael ei ragweld o ran teithwyr o arfordir gogledd Cymru i Lundain

Y twf sy'n cael ei ragweld o ran teithwyr o Wrecsam i Lerpwl

Y twf sy'n cael ei ragweld o ran y nifer fydd yn teithio i ardal Caerdydd i weithio