40,000 awr o oedi i ambiwlansys yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Ambiwlans tu allan i Ysbyty Glan Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Dywed yr adroddiad bod ambiwlansiau wedi disgwyl am 40,000 o oriau tu allan i ysbytai Cymru yn 2014

Mae cynnydd sylweddol wedi bod yn yr oedi sy'n cael ei wynebu gan griwiau ambiwlans y tu allan i ysbytai, yn ôl Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.

Mae tystiolaeth gafodd ei roi i Bwyllgor Iechyd y Cynulliad gan y gwasanaeth yn dangos bod bron i 40,000 o oriau wedi cael eu "colli" yn 2014 o ganlyniad i "oediadau trosglwyddo".

Mae'r adroddiad yn dweud bod hyn i fyny o tua 8,000 o oriau coll yn 2008.

Mae oediadau trosglwyddo yn digwydd pan fo rhaid i griwiau ambiwlans yn gorfod disgwyl dros 15 munud i drosglwyddo cleifion i ysbytai. Maen nhw'n cael eu hachosi yn aml pan fo gwlâu'r uned frys yn llawn.

Dywed y gwasanaeth ambiwlans eu bod yn pryderu, gan fod yr oedi yma tu allan i ysbytai yn golygu na all yr ambiwlans ymateb i unrhyw alwadau arall.

Disgwyl am bum awr

Mae ymchwil gan y BBC hefyd yn awgrymu bod y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru, am gyfnod o bedwar mis yn ystod Hydref y llynedd, yn gyson yn wynebu oedi hirach nac yn Lloegr neu Ogledd Iwerddon.

Ar fwy nag un achlysur, roedd rhaid i gleifion ddisgwyl dros bum awr i gael eu trosglwyddo i'r ysbyty - yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ac Ysbyty Maelor Wrecsam.

Mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi cyfrifo o'r blaen ei fod yn wynebu cost o £76 am bob un o'r oriau coll, felly ar sail hynny, fe fyddai'r oedi yn 2014 wedi costio dros £3m i'r gwasanaeth.

Mae'r adroddiad hefyd yn awgrymu bod yr oedi yn cyfrannu at y problemau mae'r gwasanaeth yn ei wynebu yn ei amseroedd ymateb.

Ffactorau eraill

Ond mae'r gwasanaeth ambiwlans yn cydnabod nad yr oedi hwnnw yn unig sy'n gyfrifol am berfformiad siomedig yn ddiweddar, gan son am gynnydd yn y galw am ofal brys, ynghyd a thrafferthion mewnol - fel cyfraddau absenoldeb uchel o fewn y gwasanaeth ei hun.

Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Cynulliad wrth iddo ddechrau ymchwiliad byr i berfformiad y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru.

Fe fydd y pwyllgor yn cymryd tystiolaeth ddydd Iau gan Gomisiynydd y Gwasanaethau Ambiwlans, Cadeirydd Pwyllgor Gwasanaethau Ambiwlans Brys, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru a chynrychiolwyr y byrddau iechyd lleol.

Cyn y cyfarfod, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydyn ni'n disgwyl i gleifion gael eu trosglwyddo mewn modd amserol. Dylai byrddau iechyd gymryd cyfrifoldeb am leihau'r oedi mewn trosglwyddo. Rydym ni yn parhau i wylio'r sefyllfa yn ofalus."