Cân i Gymru: Y Lleuad a'r Sêr ar y brig
- Cyhoeddwyd
Y Lleuad a'r Sêr gan Elin Angharad ac Arfon Wyn sydd wedi ennill tlws Cân i Gymru 2015 a'r wobr o £3,500.
Fe gafodd y gystadleuaeth ei chynnal nos Sadwrn ym Mhafiliwn Môn, Gwalchmai.
Cantores ifanc o bentref Gaerwen, Ynys Môn yw Elin Angharad.
Wedi blwyddyn yn astudio theatr cerdd yn Efrog Newydd, mae hi bellach wedi dychwelyd i Gymru ac yn gobeithio astudio mewn coleg cerdd a drama'r flwyddyn nesaf.
"Caneuon o sioeau cerdd sy'n llonni fy mryd i fel arfer, ond mae'n fraint cael canu cân pop fel Y Lleuad a'r Sêr ac roedd cael cyfansoddi'r gân hefo Arfon Wyn o'r Moniars yn brofiad arbennig!" meddai Elin.
Yn cystadlu yn y rownd derfynol roedd wyth o ganeuon amrywiol:
O'r Brwnt a'r Baw gan Darren Bolger;
Cariad Pur gan Catrin Hopkins a Pheena;
Y Llais gan Aled Evans;
Tri Mis Yn Ôl gan Cai Morgan a Lewys Mann;
Pluen Wen gan Neil Maliphant;
Oes yn Ôl gan Sera Owen;
Tynna Fi I'r Glaw gan Team Panda;
Y Lleuad a'r Sêr gan Elin Angharad ac Arfon Wyn.
Wedi i'r beirniaid ddewis y pedair cân i berfformio eto yn y rownd uwchderfynol, fe roddwyd y dasg o ddewis enillydd yn nwylo'r gwylwyr drwy'r bleidlais ffôn.
Roedd y bleidlais honno yn cyfri am hanner y marciau, gyda'r hanner arall yn cael ei phenderfynu gan aelodau'r rheithgor gwadd.
Ar y panel eleni roedd Aled Haydn Jones, y gantores amryddawn Caryl Parry Jones, y cyflwynydd radio Lisa Gwilym a'r hyfforddwr llais Euros Rhys Evans.