Bod yn fam i ferch
- Cyhoeddwyd
Un peth ydi sgrifennu nofel ychydig yn 'lliwgar' pan rydych chi'n iau. Peth arall ydi darganfod eich merch yn ei darllen dros 10 mlynedd yn ddiweddarach!
Yr awdur a'r cynhyrchydd teledu Beca Brown sy'n trafod gofid a gogoniant bod yn fam i ferch (a mab!), a'i merch, Leisa, sy'n trafod ei pherthynas gyda'i mam sengl.
Y FAM - BECA:
Pan ro'n i'n disgwyl fy mhlentyn cyntaf, merch fach o'n i isho a bod yn hollol onest.
Nid bod gen i unrhyw beth yn erbyn hogiau - mae gen i un o rheiny hefyd erbyn hyn, a mae o'n neis iawn - ond roedd gen i ryw syniad y byswn i'n gwybod yn well sut i drin hogan fach, gan mod i wedi bod yn un fy hun.
Ond pan mae rhywun yn disgwyl babi, 'chydig iawn o gysidro sy' 'na ar beth sydd i ddod ar ôl cyfnod plentyndod ifanc.
Bellach, mae'r ferch fach oedd gen i ar fin cyrraedd yr 13 oed. Ystrydeb ydi dweud bod hynny'n ddychryn mawr, a mod i methu dallt i ble'r aeth y blynyddoedd ac, yn fwy na hynny, nad ydw i'n teimlo fawr aeddfetach na 13 oed fy hun yn aml iawn.
Ond dyna sut mae hi. Mae gen i blentyn a fydd cyn bo hir iawn yn oedolyn ifanc.
Daeth y sylweddoliad yna fel slap yn ddiweddar pan ddois i ar draws Leisa yn darllen Corcyn Heddwch, dolen allanol - nofel nes i 'sgwennu 10 mlynedd yn ôl, pan roedd hi tua tair oed.
Mae hi'n nofel ddigon diniwed ar y cyfan, ond mae 'na ambell i olygfa sydd …. sud dduda' i … dwtsh yn lliwgar.
Dydi Leisa ddim wedi cyrraedd y bennod honno eto diolch byth, ond roedd y ffaith mod i wedi defnyddio'r gair 'brestia' yn ddigon iddi ar y pryd: "Omaigod Mam ...'brestia'!"
'Ddim yn fêl i gyd'
Yn groes i'r hyn ro'n i'n ei ddisgwyl, mae bod yn fam i blentyn hŷn - a honno'n ferch - yn ddifyr ac yn lot o hwyl.
Wna' i ddim smalio ei fod o'n fêl i gyd bob tro. Mae'n medru bod yn anos nag unrhyw noson ddi-gwsg efo babi neu dantrym plentyn bach - ac mae 'na ddigon o rheiny wedi bod.
Pan mae plant yn ifanc, mae rhywun isho iddyn nhw aros yn fach ac yn ciwt am byth, ond unwaith maen nhw wedi tyfu, mae'n gyfnod newydd a llawn pleserau annisgwyl.
Mae hi wedi bod yn dipyn o siwrna', ac mae fy 'Mam-nav' wedi gorfod ffendio'i ffordd drwy fôr o binc, ble roedd popeth tywysogesaidd a sgleiniog a di-chwaeth rwsut yn cyrraedd tŷ ni, er imi drio'u cadw nhw draw fel rhyw hen gingron o frenin Canute.
Byd heb Lego pinc
Oren a brown oedd fy nillad i ers talwm, pan roedd hafau'n hir ac yn braf a Lego pinc yn ddim byd ond chwinc yn llygad grymoedd rhywiaethol y farchnad degannau.
Ond mae gwisg a gwedd geneth fach wedi dod yn rhywbeth pwysicach o lawer nag oeddan nhw pan ro'n i'n tyfu fyny.
Mae merched bach yn cael eu dysgu'n fuan iawn mai'r peth mwya' sydd ganddyn nhw i'w gynnig i'r byd ma ydi'u pryderthwch, ac mae trïo milwra yn erbyn hynny yn cymryd egni, dyfeisgarwch a dyfalbarhad.
A dydi'r siwrna'n bell o fod drosodd chwaith, gan nad ydan ni wedi cyrraedd arholiada mawr, diota na miri cariadon eto.
Mae gwybod y bydd eich merch yn wynebu'r holl arteithion arddegol rydach chi'ch hun wedi eu diodda yn ddigon i wneud i chi fod isho cloi eich plentyn mewn cwpwrdd. A dwi'n ddigon hen bellach i wybod pa mor bwysig yw'r blynyddoedd ffurfiannol i iechyd emosiynol person ifanc. Mae'r profiadau rong ar yr adeg rong yn gallu difetha petha am sbelan hir iawn - am byth, i rai.
Maen nhw'n dweud mai rhwystr mwya' creadigrwydd merch yw'r pram yn y cyntedd ac yn sicr mae gan rywun lai o amser wrth drïo magu plant a dilyn gyrfa.
Ond dwi wedi dysgu lot amdana fi'n hun wrth fagu Leisa a'i brawd. Dwi wedi croniclo rhai o'r hanesion yn fy ngholofn yng nghylchgrawn Barn, dolen allanol - gyda chaniatâd y plant (ar y cyfan!).
Ond os ydi Leisa'n ddigon hen i gael gafael ar fy nofel i, yna mae hi'n ddigon hen i gyfrannu i'r erthgyl yma. Felly, drosodd i fy merch ar drothwy pen-blwydd go arbennig.
Y FERCH - LEISA:
Ma' Mam a fi wastad wedi bod yn agos, ond dwi'n teimlo wrth imi agosáu at yr arddegau bod ein perthynas ni'n cryfhau fwy fyth.
Mae Mam yn rhiant sengl, a dydw i ddim wedi gweld fy nhad ers pan o'n i'n saith oed, felly Mam sydd wedi ein magu ni.
Mae'r sefyllfa yma wedi golygu bod Mam a fi wedi closio mwy na fysa mam a merch arferol 'wyrach, a pan ro'n i'n mynd trwy'r newidiadau teuluol yma, roedd Mam wastad yna i siarad efo fi a helpu fi drwy'r profiad.
Ond er bod Mam a fi yn ffrindia mawr 'dan ni hefyd yn ffraeo! 'Dan ni'n dwy yn styfnig iawn, ac yn reit debyg o ran personoliaeth, ac mae dadleuon pitw yn gallu mynd dros ben llestri!
Ond mae genno ni yr un synnwyr digrifwch hefyd, felly fel arfer ar ôl ffrae mae un ohonan ni'n gwneud i'r llall chwerthin, ac mae'r cyfan wedi ei anghofio - tan y tro nesa!
Weithiau fyddai'n gweld fy hun run fath yn union a Mam. Rydw i'n licio sgwennu a mae gen i ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, run fath a hi. Mae Mam wastad yna i drafod pyncia gwahanol efo fi, ac i esbonio petha dwi ddim yn dallt.
Dwi'n edrych mlaen at gael sbwylio Mam ar Sul y Mamau eleni. Dan ni'n brysur efo Steddfod a gemau pêl-droed, ond mi fyddai'n gwneud yn siwr mod i'n ffendio cyfle i atgoffa Mam o pa mor wych ydi hi.