Ateb y Galw: Mari Grug
- Cyhoeddwyd

Yr wythnos yma y gyflwynwraig Mari Grug sy'n Ateb y Galw, wedi iddi gael ei hewnebu gan Trystan Ellis-Morris.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mynd i weld fy chwaer Elin yn perfformio yng ngwasanaeth Nadolig y Capel a chael fy nal nôl gan fy nhad am nad oeddwn yn cael ymuno gyda hi yn y pulpud.
Yn diwedd dwi'n credu fe wnes i lwyddo ac mi roedd 'na angel ychwanegol yn stori'r geni.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?
Roedd dau ddyn yn rhannu stafell wely gyda fi a fy chwaer Lisa. Sean Maguire oedd yn chwarae rhan Tegs yn y gyfres 'Grange Hill' a Dieter Brummer odd yn chwarae rhan Shane yn 'Home and Away'. Posteri ym mhobman.

Roedd Dieter Brummer yn codi'r tymheredd yn stafell wely Mari Grug!
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Gofyn i weinyddes mewn bwyty pryd odd hi'n disgwyl babi. Mi oedd hi wedi geni ers 10 wythnos!!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Dydd Sadwrn diwethaf, o'n i ym mhriodas ffrindiau.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Chwarae gyda fy ngwallt bob munud o'r dydd. Pan o'n i'n cyflwyno rhaglen fyw unwaith rhai eiliadau cyn i fi fynd yn fyw, ges i'r cyfarwyddwr yn gweiddi yn fy nglust "stopia chwarae gyda dy blydi gwallt". Dwi dal i wneud, credu bod e rhyw fath o nervous twitch.
Dy hoff ddinas yn y byd?
Efrog Newydd
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Sesiwn Fawr Dolgellau 2005

Y Super Furry Animals oedd yn serennu yn Nolgellau ar noson arbennig Mari - Sesiwn Fawr, 2005
Oes gen ti datŵ?
Nagoes. Erioed wedi apelio ac fe wnes i weld ymateb fy rhieni pan ddaeth fy chwaer adre o'r brifysgol gydag un mawr ar waelod ei chefn.
Beth yw dy hoff lyfr?
Wrth fy modd gyda llyfrau Jodie Picoult - 'Songs of the Humpback Whale' a 'My Sister's Keeper'. Ma' 'Philomena' gan Martin Sixsmith wedi gadael tipyn o argraff arna i a nes i wir fwynhau 'Blasu' gan Manon Steffan Ros.
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Fy siaced ledr ddu ac anaml iawn fydda i heb sgarff - casáu cael gwddf oer.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
'Theory of Everything' - gwyyyyyych!

"Mi fydd hi'n teimlo'n oer. Cofiwch wisgo sgarff!"
Dy hoff albwm?
'A kind of Magic' gan Queen.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?
Cwrs cyntaf bob tro. Weithiau yn archebu 2 gwrs cyntaf gan bod well dewisiadau na'r prif gwrs.
Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?
Dyddiau 'ma gydag amser i glebran yn brin, ma' txt yn handi iawn ond pan fo amser yn caniatáu sdim byd yn well na gwd clonc ar y ffôn!!
Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Steffan Ifan James, fy mab 16 mis oed. Byddai'n ddiddorol iawn i weld beth yn union sy'n mynd ymlaen yn ei fyd bach e'.

Byddai Mari wrth ei bodd yn gwybod beth mae Steffan Ifan yn ei feddwl o'r swigod
Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesa'?
Sian Thomas