Iechyd meddwl: Galw i wneud mwy i helpu dynion hŷn
- Cyhoeddwyd
Mae elusen iechyd meddwl blaenllaw yn rhybuddio bod angen mwy o gefnogaeth i ddynion hŷn yng Nghymru sy'n brwydro yn erbyn problemau iechyd meddwl.
Mae Mind Cymru yn dweud bod dynion sydd wedi ymddeol yn fwy tebygol o ladd eu hunain nac oedolion iau, ond dyw nifer ddim yn cael y cyngor a'r arweiniad meddygol y maen nhw ei angen yng nghyfnodau cynnar eu cyflwr.
Dywedodd yr elusen bod rhaid i ddoctoriaid yng Nghymru fod yn fwy ymwybodol bod dynion hŷn - yn eu 50au hwyr a hŷn - yn fwy tebygol o broblemau iechyd meddwl sydd heb gael eu canfod a'r cleifion ei hunan yn anhebygol o'u trafod yn agored.
Mae Ruth Coombs, rheolwr dylanwad a newid Mind Cymru, yn credu bod dynion hŷn sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl yn aml yn cael eu methu.
'Ynysiad'
"Mae problem ynglŷn â'r cymorth ar gyfer dynion hŷn. Rhaid iddyn nhw gael ffyrdd gwahanol o'u cefnogi a thriniaeth wahanol i'r hyn sy'n cael ei gynnig.
"Wrth i chi fynd yn hŷn gallwch fod yn gadael eich gwaith am nifer o resymau. Gallai hyn arwain at deimlad o ynysiad wrth i chi golli cysylltiad â ffrindiau. Gallwch chi hefyd golli incwm a gallu corfforol, felly rhaid i ddynion gael eu cefnogi."
Mae ffigyrau Mind Cymru o 2009 yn dangos bod:
Un ym mhob pedwar o bobl hŷn â symptomau iselder digon difrifol i warantu ymyrraeth;
Y risg o hunanladdiad mewn dynion hŷn sengl dair gwaith yn fwy na dynion sydd wedi priodi;
Pobl dros 75 oed 16 gwaith yn llai tebygol o gael eu gofyn am hunanladdiad gan eu doctor nac oedolion ifanc;
Dim ond traean o bobl hŷn fyddai'n trafod iselder gyda'u doctor.
'Ffrindiau da'
Yn Nhondu, ger Pen-y-bont ar Ogwr, mae grŵp o ddynion hŷn sydd â phroblemau iechyd meddwl wedi ffurfio cynllun cymorth, Squirrel's Nest. Maen nhw wedi ffurfio ers 2012 ac mae ganddyn nhw 25 o aelodau - mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw yn ddynion yn eu 60au ac mae nifer wedi dioddef o iselder.
Dywedodd Alan Roach, 67 oed, un o sylfaenwyr y cynllun: "Fe gollais fy swydd, heb ddim i'w wneud. Yn fuan wedi hynny bu farw fy mab. Pedair blynedd wedyn, bu farw fy ngwraig o ganser.
"Mae hi'n cymryd amser hir i anghofio ond dim ond ychydig eiliadau i gofio. Mae gennym ni i gyd ddyddiau drwg, ond mae bod yma yn helpu. Mae'n helpu pan ydych chi wedi eich amgylchynu gan bobl sy'n gwybod beth sy'n digwydd i chi, a sut y digwyddodd.
"Mae gen i ffrindiau da yma. Pan does gennych chi ddim i'w wneud, dyna pryd mae eich meddwl yn dechrau crwydro. A phan mae'n dechrau crwydro pae'r peryg yno i chi fynd yn isel unwaith eto."