Cadeirio Castell Aberteifi fel rhan o gynllun adfer
- Cyhoeddwyd
Mae cadair Eisteddfodol enfawr wedi ei gosod yng Nghastell Aberteifi fel rhan o gynllun i adfer y safle.
Cafodd yr Eisteddfod gyntaf ei chynnal yn Aberteifi yn 1176, sy'n cael ei ddathlu gan y gadair naw troedfedd o uchder.
Yr artist Paul Clarke oedd yn gyfrifol am greu'r gadair, sy'n cynnwys elfennau o arfbais Dinefwr, a cheffylau sy'n adlewyrchu diddordeb yr Arglwydd Rhys mewn marchogaeth.
Cafodd y gadair ei gosod ar dwr dwyreiniol y castell.
Gall ymwelwyr weld y cerflun newydd ar 15 Ebrill, pan fydd y castell yn agor ei ddrysau i'r cyhoedd.