Ateb y Galw: Siân Thomas
- Cyhoeddwyd
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Fy atgof cyntaf yw chware peli eira gyda Dad pan o'n i tua 3 oed ac yn byw yn y Rhondda. Aeth un trwy ffenest y gegin gan adael y lle yn wydr i gyd - o'dd Mam ddim yn hapus!!!!
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?
Donny Osmond oedd yr heart throb - roedd fy stafell wely yn llawn posteri ohono fe.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Ffilmio mewn ogof yn Ystradfellte, wrth lithro lawr afon o fwd, mi gydiodd fy nhrowser mewn craig ac mi lanies yn y gwaelod yn fy nicyrs gyda fy nhrowser wrth fy nhraed.
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Dwi'n crio am bopeth - ffilm soppy, unrhywbeth i neud ag anifeiliaid. Dwi'n real wimp.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Siŵr bydde fy ffrindie yn dweud bo' gen i lwythi! Dwi byth yn glanhau'r car, dwi'n flêr iawn gyda'r ardd a dwi byth yn rhoi fy sgide i gadw.
Dy hoff ddinas yn y byd?
Efrog Newydd - mae mor gyffrous ac yn wahanol bob tro yr ewch chi yno.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Dwi wedi cael lot o nosweithie gret sy'n aros yn y cof - ces i'r fraint o fynd i seremoni'r Oscars ar ran Heno flynyddoedd yn ôl - fantastic! Ces i dreulio noson yn y Sahara mewn pabell mewn oasis.
Gweles y wawr yn torri yn anialwch y Negev yn Israel, a nifer fawr o nosweithie grêt gyda chriw o ffrindie. Alla i ddim dewis un yn arbennig - dwi wedi joio nhw i gyd mewn ffyrdd gwahanol.
Oes gen ti datŵ?
Nagoes! Casau nhw.
Beth yw dy hoff lyfr?
Llyfr anferthol, llawn llunie gwych sy'n cofnodi darganfod bedd Tutankhamun. Ma 'na lunie o bron popeth oedd yn y bedd ynddo fe - ma' fe'n ffantastic ac yn un o fy nhrysorau.
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Jîns - dwi'n byw ynddyn nhw.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
'Gone Girl' - ych a fi ond yn wych.
Dy hoff albwm?
'Sgen i ddim ffefryn - mae'n dibynnu ar yr hwyl.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?
Prif gwrs; cinio dydd Sul Mam - y gravy gore'n y byd.
Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?
Text yn iawn pan ar frys, ond well gen i ffonio am sgwrs - dwi'n lico clywed llais.
Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Bydden i wedi lico bod yn Howard Carter y diwrnod ffindodd e fedd Tutankhamun.
Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Garry Owen