Teyrnged i Dafydd Tudur wedi gwrthdrawiad Y Felinheli
- Cyhoeddwyd
Mae teyrnged wedi ei roi i ddyn 27 oed fu farw wedi iddo gael ei daro gan gar yng Ngwynedd yn oriau mân fore Sul.
Bu farw Dafydd Tudur - oedd yn wreiddiol o Forfa Nefyn - yn y gwrthdrawiad ar ffordd osgoi y Felinheli am tua 3:20am.
Roedd Mr Tudur yn gyn-ddisgybl yn Ysgol Morfa Nefyn, Nefyn, Botwnnog a Choleg Meirion Dwyfor.
Roedd yn byw yn y Felinheli ac yn gweithio fel cyfreithiwr ym Mangor.
Mewn datganiad, dywedodd ei dad, Gareth Tudor Morris Jones: "Mae hyn wedi bod yn sioc arthurol i ni gyd.
"Bydd yna fwlch enfawr yn y teulu ar ôl Dafydd Tudur ond rydan ni hefyd yn diolch am y saith mlynedd ar hugain llawn hapusrwydd a gafwyd efo Dafydd."
Cafodd y ffordd ei chau am nifer o oriau wedi'r gwrthdrawiad, ac mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth.
Dywedodd llefarydd: "Rydym yn apelio ar unrhyw un a welodd berson yn cerdded ar hyd yr A487 cyn y gwrthdrawiad i gysyllltu â ni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Mawrth 2015