Perffeithrwydd mewn pop?

  • Cyhoeddwyd
Elin AngharadFfynhonnell y llun, S4C

Y Lleuad a'r Sêr gan Elin Angharad ac Arfon Wyn enillodd Cân i Gymru 2015 a phrin iawn yw'r amser sydd ar ôl i ymgeisio am y tlws y flwyddyn nesaf. 20 Tachwedd yw dyddiad cau y gystadleuaeth, dolen allanol.

Ond beth yw'r elfennau sydd yn gwneud cân yn gân boblogaidd a chofiadwy?

Mae'r cerddor Owen Powell wedi cael llwyddiant yn y maes. Fel aelod o Catatonia, mi gyd-gyfansoddodd rhai o ganeuon mwyaf poblogaidd y band gan gynnwys 'Mulder and Scully' a 'Road Rage'.

Mi wnaeth o hefyd gyd-gyfansoddi 'Warwick Avenue' i Duffy ac mae wedi beirniadu nifer o gystadlaethau Cân i Gymru.

Sut mae mynd ati felly i gyfansoddi'r diwn berffaith 'na? Yn gynharach eleni bu Owen yn rhannu ei gyngor gyda Cymru Fyw.

Rheolau a thatŵs!

Dyna sy'n rhyfedd am Bop Perffaith... Dyw e ddim yn berffaith o bellffordd. Camsyniadau, blerwch a gwendid yw rhai o gynhwysion mwyaf pwysig caneuon pop.

Mae fy niffiniad i o ganu pop efallai yn fwy eang na'r arfer. Os nad yw cerddoriaeth yn glasurol, jazz neu'n avant garde, i fy nghlustiau i mae'n bop. Felly mae'r Sex Pistols yn bop. Mae Datblygu yn bop. Roedd recordiau Motown yn bop yn yr un ffordd a mae recordiau Peski yn bop.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r traddodiadau yn wahanol ond i Owen mae pop yn cynnwys artistiaid fel The Jackson 5, Datblygu, Sex Pistols a Gwenno (Peski)

Felly dyna fi wedi profi i chi fy mod yn berson rhesymol ac yn berchen ar feddwl agored. Wel na, ddim cweit. Mae rheolau gyda fi. Safonau os liciwch chi.

Ac mae'r rheolau yma yn perthyn i ysgrifennu caneuon. Gyda llaw mae'r rheolau yma wedi eu cerfio mewn carreg, wedi eu tatŵio yn lliwgar ar draws croen fy nghefn...

Cofiwch!

1. Melodi, melodi, melodi.

2. Os yw intro y gân yn fwy na deg eiliad rydych chi ar y llwybr i uffern dân. Wir i chi.

3. Peidiwch â ddefnyddio'r teitl 'Symud Ymlaen'. Mae 'na o leia' 3,426 o ganeuon o'r enw 'Symud Ymlaen' yn barod yn yr iaith Gymraeg.

4. Chi'n gwbod y darn yna o'r gân sy'n rîli gwd?... Gwnewch e eto. Ac eto. Ac eto.

5. Chi'n gwbod y darn yna o'r gan sy'n rîli sâl?... Peidiwch gwneud e. O gwbwl. Na rîli, stopiwch.

6. Os fuoch chi erioed yn cyfansoddi cerdd dant, gwnewch y gwrthwyneb. Ailadroddwch, defnyddiwch nodau'r cordiau yn y melodi. Wedyn defnyddiwch nhw eto. Nes i sôn am yr ailadrodd?

7. Darllenwch. 'Dw i erioed wedi dod o hyd i gyfansoddwr caneuon sydd ddim yn darllen byth a beunydd.

8. Trowch eich meddwl i'r setting a elwir yn "Dw i'n teimlo'n ifanc ac yn hyderus a 'dw i'n gallu cyflawni unrhywbeth."

9. Bwydwch yr awen.

10. Does dim gorchymyn rhif 10. Fe fyddai hynny'n amlwg yn rhy Feiblaidd!

Peidiwch â chymryd y rheolau yma yn rhy ddifrifol. Os dw i'n synhwyro eich bod chi'n eu hanwybyddu nhw mi fydda i draw i ddangos y tatŵ i chi.

'Sneb eisiau i hynny ddigwydd nac oes?

Ewch yma am ragor o gynnwys am roc a phop ar Cymru Fyw

Ffynhonnell y llun, Owen Powell
Disgrifiad o’r llun,

Owen Powell