Colli swyddi Môn: Ergyd i'r economi
- Cyhoeddwyd
Mae academydd o Brifysgol Bangor wedi rhybuddio y bydd colli cannoedd o swyddi mewn ffatri brosesu cywion ieir yn Llangefni yn ergyd fawr i economi Ynys Môn.
Ar raglen materion cyfoes Manylu ar Radio Cymru mae Dr Alexandra Plows yn dweud y bydd hi'n anodd iawn i'r gweithwyr ganfod swyddi eraill os bydd cwmni 2 Sisters yn cael gwared ar shifft gyfan - bron i 300 o weithwyr.
"Da ni'n wynebu sefyllfa ddifrifol ers blynyddoedd. Mae 'na fwlch yn y farchnad lafur yn arbennig hefo cyflogwyr mawr," meddai.
"Mae gwaith Peboc wedi mynd ers tua 10 mlynedd, y lladd-dy yng Ngaerwen ac wrth gwrs Alwminiwm Môn. Does 'na ddim lot o gyflogwyr mawr ar yr ynys beth bynnag - a 'da ni wedi colli lot fawr ohonyn nhw."
Cyfnod ymgynghori
Mae'r cyfnod ymgynghori ar y diswyddiadau yn dod i ben ar 6 Ebrill ac er bod yr undebau a gwleidyddion lleol wedi bod yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd â'r cwmni does dim arwydd bod tro pedol ar y gweill.
Mae Manylu yn deall fod y cwmni wedi rhoi sicrwydd fod 'na ddyfodol tymor hir i'r safle mewn cyfarfod yr wythnos ddiwethaf. Yn yr un cyfarfod roedd rhai yn codi cwestiynau am yr arian cyhoeddus mae 2 Sisters wedi ei gael gan Lywodraeth Cymru.
Gwrthod ymhelaethu am hynny wnaeth y cwmni pan wnaeth Manylu gysylltu â nhw gan ddweud y byddai'n amhriodol gwneud sylw cyn i'r cyfnod ymgynghori ddod i ben.
Doedd Llywodraeth Cymru ddim yn fodlon rhoi gwybodaeth chwaith gan ddweud fod y manylion yn gyfrinachol am resymau masnachol.
Colli gwaith
Ond yng nghanol yr holl drafod mae'r cyfan yn gwmwl dros fywydau degau o deuluoedd. Yn eu plith mae Alan Roberts o Langristiolus - tad i saith o blant sydd wedi gweithio yn y ffatri gywion ieir trwy gydol ei oes.
"Mi roedden ni yn reit shocked achos newydd fynd ar ddwy shifft oedden ni," meddai.
"Doedden ni ddim yn disgwyl y newyddion yma o gwbl - os unrhyw beth disgwyl i bethau wella nid gwaethygu oedden ni. Mae gen i lot o ffrindiau sy'n mynd i golli eu gwaith - ffrindiau sydd wedi bod hefo fi o'r dechrau bron."
A dydi'r rhagolygon i'r rhai allai golli eu gwaith ddim yn dda yn ôl Swyddog Undeb Unite, Paddy McNought.
"Da ni wedi amcangyfrif fod tua hanner y gweithwyr asiantaeth yn byw yn lleol felly 'da chi'n sôn am tua 200 o bobl leol yn colli eu gwaith," meddai.
"Does 'na ddim swyddi yng ngogledd orllewin Cymru ac i weithio yn y diwydiant cywion ieir mae'n siŵr mai Queensferry fyddai'r lle agosaf."
Bydd modd gwrando ar raglen Manylu ar BBC Radio Cymru am 12:30 ddydd Iau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2015