Iechyd meddwl: 'Gorfod teithio i Loegr'
- Cyhoeddwyd
Mae pobl ifanc sydd angen triniaeth ar gyfer salwch iechyd meddwl yn cael eu hanfon i Loegr er bod gwlâu gwag mewn uned newydd yng Nghymru.
Mi agorodd ysbyty Glyn Ebwy ym mis Gorffennaf y llynedd ac mae'n cael ei rhedeg gan gwmni preifat.
Mae'n cynnig 12 ystafell ar gyfer pobl ifanc rhwng 13-18 oed sydd wedi eu hanfon i'r ysbyty o dan amodau'r ddeddf Iechyd Meddwl.
Ond mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru'n mynnu eu bod wastad yn ystyried cynnig gwely yng Nghymru i gleifion.
Ers i'r ysbyty agor ym mis Gorffennaf 2014 mae BBC Cymru yn deall mai dim ond dau berson sydd wedi eu cyfeirio atyn nhw gan y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) o Gymru ac un o Loegr.
Mae'r uned wedi ei chofrestru ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ond hyd yma, dydi hi ddim ar restr o gyflenwyr sy'n cael eu ffafrio yn wahanol i unedau preifat tebyg yn Lloegr.
Mae'r uned yn cyflogi athrawon a therapydd galwedigaethol, yn ogystal â seiciatryddion a staff clinigol eraill.
Dim ond dau gyfleuster arall ar gyfer cleifion mewnol sydd yng Nghymru ar gyfer plant a phobl ifanc sydd gyda salwch meddwl - Tŷ Llidiard, sydd yn rhan o Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont a'r uned Glascoed yn Abergele.
Pryderon
Roedd adroddiad gan un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol fis Tachwedd y llynedd yn rhybuddio bod pobl ifanc ddim yn cael yr help oedden nhw angen am fod yna brinder gwasanaethau addas ar eu cyfer yng Nghymru.
Mi oedd y Pwyllgor Plant, Pobl ifanc ac Addysg yn cwestiynu os oedd yna fuddsoddi digonol yn CAMHS ac yn dweud bod yna "bryderon difrifol" am y gwasanaeth.
Profiad tad sydd â merch yn dioddef o anhwylder personoliaeth.
Roedd hi wedi gorfod mynd i'r ysbyty sawl gwaith ar ôl hunan niweidio. Yn y diwedd fe gafodd ei hanfon i'r ysbyty er mwyn ei diogelwch ei hun yng Nghaint.
Fe fyddai hi wedi gallu cael ei hanfon i'r uned yng Nglyn Ebwy ond chafodd hi ddim.
"Odd y lle gafodd hi ei hanfon, fe wnaethon nhw waith da ac mi wnathon nhw ei helpu hi. Ond un o'n pryderon mwyaf ni adeg ni, a'r ddadl fwyaf o'n i yn cael gyda'r rheolwr ar y ward oedd fod y pellter yn broblem iddi," meddai'r tad.
"Fe gafodd hi ei heffeithio gyda'r pellter. Odd hi'n teimlo yn euog bod ni yn gorfod teithio a ddim ishe rhoi straen ychwanegol arnom ni. Ac o'dd darganfod wedyn bod yna le posib o'dd 20 munud i ffwrdd o gartre, yn hytrach na rhwng tair awr a chwarter a chwech, saith awr fel odd hi weithiau i wneud y siwrne yna un ffordd, wel odd e yn ofnadwy o rwystredig.
"Fi'n credu wnaeth ein merch ni golli gobaith sawl gwaith yn ystod y tair blynedd diwethaf.
"Wnaeth hi hefyd golli gobaith yno ni i ryw raddau ar adegau gwahanol achos o'n i methu gwneud yr hyn dylen ni fod yn gallu gwneud fel rhieni a'i helpu hi i ddatrys ei phroblemau.
"Mae e wedi gadel ei ôl arnom ni, o ran ein hiechyd ni, gyrfa am fod ni wedi gorfod cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith. Mae e wedi rhoi straen ar berthynas teuluol. Ni'n lwcus mewn ffordd am ein bod ni wedi llwyddo i barhau i gael perthynas gyda'n merch ni er hyn i gyd.
"Ond wy yn teimlo yn chwerw iawn am yr holl boen a'r dioddef diangen ma'r system wedi rhoi ar ein merch ni ac arnom ni."
Mae Keith Towler, y cyn Gomisiynydd Plant, yn dweud ei fod o wedi teimlo ei fod yn "bwrw ei ben yn erbyn wal" tra roedd o wrth y llyw am fod pobl ifanc yn cael triniaeth yn Lloegr gan nad oedd yna ddigon o help addas yng Nghymru.
Mae'n dweud ei fod o wedi tanlinellu hynny yn gyson yn yr adroddiadau blynyddol.
Mae o'n galw ar y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, i ymyrryd ac i ofyn pam bod yna wlâu gwag yn yr ysbyty yng Nglyn Ebwy.
"Mae angen i ni gydnabod bod gwasanaethau iechyd meddwl ar gyfer plant a phobl ifanc yn wasanaeth hanfodol. Nid rhywbeth neis i'w gael yw e. Mae rhaid i ni gael e.
"Mae'r pwyllgor plant a phobl ifanc wedi gwneud argymhellion.
"Mae'r comisiynwyr wedi bod yn sôn a sôn a sôn am hyn ers 14 mlynedd. Rydyn ni yn gwybod beth yw'r problemau. Mae'n bryd i weithredu."
Mae ceisiadau cleifion mewnol sydd yn dod o dan orchwyl CAMHS yn cael eu gwneud trwy Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (PGIAC).
Cysoni safon
Mewn datganiad mae'r pwyllgor yn dweud bod nhw wastad yn ystyried cynnig gwely i rywun mewn uned gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
Maen nhw'n dweud fod cynllun ymarfer cenedlaethol wedi ei gynnal i wella'r gwasanaeth ac roedd uned Glyn Ebwy yn rhan ohono.
Mi fydd fframwaith cenedlaethol, er mwyn cysoni safon y gofal, yn cael ei roi yn ei le o 1 Ebrill.
Mae llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru yn dweud bod CAMHS wedi gweld cynnydd mawr yn nifer y ceisiadau a'i bod nhw wedi buddsoddi adnoddau yn y gymuned a fydd yn dod i rym mis nesaf.
Maen nhw hefyd yn dweud mai prin ydy'r cleifion sydd yn gorfod aros yn yr ysbyty i gael triniaeth ac mai penderfyniad y clinigwyr ydy dewis pa uned sydd yn addas ar gyfer anghenion y claf.