Ateb y Galw: Delyth Mai Nicholas

  • Cyhoeddwyd
delyth

Yr wythnos yma Delyth Mai Nicholas sy'n weithgar iawn yng nghylchoedd yr eisteddfodau sy'n Ateb y Galw. Cafodd Delyth ei henwebu gan Garry Owen.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mae gennyf nifer o atgofion melys iawn fel plentyn bach 3 blwydd oed- mynd yn flynyddol ar wyliau gyda mam, dad a Garry mrawd i aros yng ngharafan fy wncwl a'n fodryb yn Saundersfoot.

Dyna beth oedd dyddiau da a fedra i hyd yn oed heddiw ddim mynd i Saundersfoot heb golli deigryn- mae gennyf hiraeth mawr am y lle.

Roedd Delyth a'i brawd Garry yn weithgar iawn pan ddaeth yr Eisteddfod i'w milltir sgwâr yn Llanelli yn 2014 - Dim angen carafanio felly!
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Delyth a'i brawd Garry yn weithgar iawn pan ddaeth yr Eisteddfod i'w milltir sgwâr yn Llanelli yn 2014 - Dim angen carafanio felly!

Ond un o'r atgofion cynharaf yw eistedd ar lin mam bob prynhawn yn y tŷ tua 2 o'r gloch yn gwylio Watch With Mother- Andy Pandy, Picture Book, Bill a Ben. A dyna ddangos fy oedran yn syth! Dim S4C.!! Diolch i mam am roi o'i hamser i fi.

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Wel ar wahan i John yn yr Ysgol Gynradd (fy nghariad cyntaf yn 10 oed a wna i ddim ymhelaethu ar hynny) yr unig un i fi oedd Cliff Richard - on i'n hoff o'i ganeuon ac yn meddwl ei fod e mor olygus. Ro'n i'n casglu lluniau ohono! On i'n dwlu arno fe.

Yn waeth na hynny cofio mynd i Wimbledon un flwyddyn pan on i yn fy UGEINIAU a'i weld e gyda Sue Barker! Ron i mor jelys!

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Mae sawl digwyddiad yn dod i'r meddwl-ond dw i'n cofio mynd i arwain mewn cyngerdd yn Llanelli rhyw flwyddyn - cyngerdd codi arian i Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000 oedd hi - ac ron i wedi prynu ffrog hir newydd las a honno'n sbarclo.

Cyrraedd y neuadd a mynd tu cefn llwyfan yn meddwl mod i'n queen beeac yno roedd un o'r artistiaid yn gwisgo yn union 'r un ffrog â fi. Bu'n rhaid i mi wynebu'r sefyllfa o gyflwyno'r artist i neuadd orlawn!

Meddyliwch y ddwy ohonom ar y llwyfan yn yr un ffrog!! Crinj!

Embaras i Delyth, ond mae gwisgo'r un dillad yn draddodiad mewn steddfodau!
Disgrifiad o’r llun,

Embaras i Delyth, ond mae gwisgo'r un dillad yn draddodiad mewn steddfodau!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Sili f'i'n gwbod wedi'r holl flynyddoedd o hyfforddi, ond fe gries i'n ddiweddar o glywed, wedi'r holl waith caled, bod nifer o'm disgyblion wedi llwyddo yn yr Eisteddfodau Sir ac ar y ffordd i Gaerffili.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Mae gennyf nifer! Un o'r rhai dw i wedi ceisio'u concro droeon yw cnoi f'ewinedd- ar hyn o bryd dw i yn y broses o geisio concro!!

Maen nhw'n dod mlân yn eithaf da nes bod sefyllfa llawn stress yn fy wynebu!!

"Daro! Fydda i yma drw'r dydd yn ceisio dod o hyd i'r sgript 'na!"Ffynhonnell y llun, Creative Commons
Disgrifiad o’r llun,

"Daro! Bydda i yma drw'r dydd yn ceisio dod o hyd i'r sgript 'na!"

Dw i hefyd yn euog o fethu taflu pethau - yn enwedig nodiadau, sgriptiau, llythyron a.y.y.b ac o ganlyniad ar hyn o bryd mae'r sied a'r garafan, credwch e neu beidio, yn llawn.

Dy hoff ddinas yn y byd?

Wedi bod ym Mharis - mae honno'n ddinas ramantus, gyda'r cwmni iawn yn naturiol!

Ond roedd Efrog Newydd yn wych gyda chymaint i'w weld. Mae gennyf nifer o atgofion hyfryd o'r daith honno - Central Park, Ellis Island a'r cyfan ar y pryd o dan haen o eira. Bendigedig!

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Fy mhen blwydd arbennig diwethaf, gyda'r limousine yn cyrraedd tu allan i'r tŷ. Roedd honno'n noson gyda'r teulu mewn tŷ bwyta y tu allan i Gaerfyrddin ac roedd hi'n gofiadwy ond fe ges sawl noson arall gyda ffrindiau yr un wythnos a oedd yn sbesial- a dweud y gwir aeth y dathlu bron yn ŵyl!

Gobeithio y bydd y pen-blwydd arbennig nesa yr un mor arbennig.

Oes gennyt ti datŵ?

Dyw hi ddim yn rhy hwyr Delyth!Ffynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Dyw hi ddim yn rhy hwyr Delyth!

Nagoes… ond … tasen i'n cael fy amser yn ôl eto…falle, falle y cawn rhosyn bach yn rhywle…ar f'ysgwydd? Haws dweud na gwneud hwyrach!

Beth yw eich hoff lyfr?

Hunangofiannau a Chofiannau! Dw i'n hoff iawn ohonyn nhw, yn arbennig hanes enwogion Cymraeg. Fe wnes i fwynhau darllen hanes Ryan a Ronnie'n ddiweddar a hunangofiant Richard Rees.

Ond dw i'n hoff i o lyfrau Philippa Gregory hefyd. Dw i wedi darllen llawer o'i gwaith.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Yn bendant fy jîns-dw i'n byw ynddyn nhw. Nid yr un pâr yn naturiol - mae gennyf sawl pâr!

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?

'My Best Friend's Wedding' - wedi 'i gwylio droeon - nid yw'n ffilm diweddar wrth gwrs ond bob tro dw i'n ei gwylio dw i'n llefen dagre'r glaw. Er mod i'n gwbod beth yw'r diwedd - trist iawn meddech chi.

'My Best Friend's Wedding'. Gobeithio na fydd un o'r gwesteion eraill yn gwisgo'r un ffrog!
Disgrifiad o’r llun,

'My Best Friend's Wedding': Gobeithio na fydd un o'r gwesteion eraill yn gwisgo'r un ffrog!

Dy hoff albwm?

Anodd ateb hwn-rhaid cyfaddef dw i ddim yn dilyn llawer o gerddoriaeth Saesneg. Dw i'n hoff o gerddoriaeth Gymraeg- mae caneuon Bryn Fôn yn dod i'r brîg.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?

Yn sicr prif gwrs- dw i'n hoff o unrhyw bryd sy'n cynnwys cyw iâr ond byddai fy ffrindiau'n siwr o ddweud wrthych fy mod yn hoff o fy sauce gyda fy mwyd. Dw i'n enwog am ofyn-"alla i gael rhagor o sauce plis?Dw i'n hoff o gyri hefyd!

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Dw i yn defnyddio tecst yn aml ond er mwyn cysylltu ar frys. Does dim yn well na chael sgwrs dda ar y ffôn a chlywed llais yr ochr draw. Gall neges destun fod yn gamarweiniol weithiau.

Petaset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Credu yr hoffwn fod yn Jemeima Niclas - dyn ni ddim yn perthyn am wn i - ond byddwn yn hoffi gwneud rhywbeth dewr dros fy ngwlad.

Tawelwch yn y pafiliwn! Byddai Delyth yn edrych yn beryg ar lwyfan steddfod gyda picfforch yn ei llaw!
Disgrifiad o’r llun,

Tawelwch yn y pafiliwn! Byddai Delyth yn edrych yn beryg ar lwyfan steddfod gyda picfforch yn ei llaw!

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Nigel Owens