Ateb y Galw: Garry Owen
- Cyhoeddwyd
Yr wythnos yma cyflwynydd Taro'r Post Garry Owen sy'n Ateb y Galw wedi iddo gael ei enwebu gan Siân Thomas.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Mynd i'r cwb ffowls ar ben yr ardd gyda dad i nôl wyau. Wrth fy modd!!
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?
Kate Bush!!!! Ffan enfawr o 'Wuthering Heights'.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Cael stŵr gan y prifathro yn ysgol uwchradd am fod fy ngwallt i yn rhy hir!!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Deigryn bach o hapusrwydd ar ddiwrnod priodas fy merch.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Na!! Er efallai y byddai fy ngwraig yn dweud yn wahanol!
Dy hoff ddinas yn y byd?
St Petersburg... Hanes, hanes a hanes.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Ble fi yn dechre?!
Oes gen ti datŵ?
Na. Dim yn bod arnyn nhw... ond dim i fi.
Beth yw dy hoff lyfr?
'1984'. Gweledigaeth George Orwell wrth edrych i'r dyfodol. Mae 1984 wedi mynd a dod wrth gwrs, ond y llyfr mor amserol ag erioed.
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Dim byd yn y wardrob sy' mor bwysig â hynny i fi!
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
'Pride'. Ffilm wych yn 'neud i chi chwerthin a chrio, ac yn atgoffa fi o gyfnod cyffrous yn fy mywyd. Streic y glowyr oedd y stori fawr gyntaf i fi ddilyn fel newyddiadurwr ifanc.
Dy hoff albwm?
'Court and Spark' gan Joni Mitchell. Wedi gwrando ar hon droeon. Cymysgedd o ganu gwerin, pop a jazz.
Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?
Prif gwrs. Unrhywbeth llysieuol.
Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?
Ffonio wrth gwrs. Wrth fy modd yn siarad â phobl ar y ffôn yn enwedig rhwng 1-2 ar BBC Radio Cymru ar Taro'r Post. Cofiwch y rhif 03703500500.
Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Hiram Bingham ar y diwrnod y gwnaeth e ddarganfod Machu Pichu ar 24 Gorffennaf 1911.
Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Delyth Mai Nicholas.