Rhybudd am beryglon canser y croen
- Cyhoeddwyd

Mae arbenigwyr yn cynghori pobl i ddefnyddio eli haul ffactor 15, o leiaf
Mae ffigyrau newydd yn dangos fod 130 o bobl yn marw o ganser y croen yng Nghymru bob blwyddyn.
Daw'r ffigyrau wrth i Ymchwil Canser Prydain ddatgelu bod oddeutu 730 o bobl yng Nghymru yn cael diagnosis o felanoma malaen bob blwyddyn.
Dyma'r ail ganser mwyaf cyffredin ymhlith pobl rhwng 15 a 34 oed.
Mae pobl dros 65 oed tua saith gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu'r clefyd o gymharu â 40 mlynedd yn ôl, yn ôl yr elusen.