Artistiaid yn ailrecordio 'Hawl i Fyw'
- Cyhoeddwyd
Daeth rhai o gerddorion enwoca' Cymru at ei gilydd i ailrecordio cân Dafydd Iwan, 'Hawl i Fyw', yn stiwdio Sain yn Llandwrog, Gwynedd, ddydd Iau.
Roedd cantorion fel Rhys Meirion, Elin Fflur, Bryn Fôn a Caryl Parry Jones yn dangos eu cefnogaeth i'r ymgyrch o'r un enw, trwy ganu llinell o'r gân.
Ochr yn ochr â Dafydd Iwan, roedd artistiaid eraill hefyd yn cyfrannu - gan gynnwys Ywain Gwynedd, Gwyneth Glyn, Gwilym Bowen Rhys, Meinir Gwilym, Iwan Cowbois Rhos Botwnnog, Lisa Jên, John ac Alun, Bedwyr Morgan, Trio, Casi Wyn, Mike Peters, Côr y Brythoniaid a Hogia'r Wyddfa.
Codi arian
Bydd y sengl yn cael ei chyhoeddi ddydd Mawrth nesa', gyda'r elw'n mynd at ymgyrch #tîmIrfon ac Awyr Las Gogledd Cymru, sy'n codi arian i helpu cleifion canser yn y gogledd.
Cafodd ymgyrch #HawliFyw ei ysbrydoli gan stori Irfon Williams, tad 44 oed o Fangor, sy'n cael triniaeth ar gyfer canser y coluddyn.
Mae wedi dewis symud ei driniaeth i Loegr wedi i Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wrthod ei gais am gyffur Cetuximab, allai helpu i ymestyn ei fywyd.
'Geiriau'n addas'
Dywedodd Dyfed Jones ar ran Hawlifyw: "Fel ymgyrch, rydym yn hynod ddiolchgar bod Dafydd Iwan wedi cytuno i adael i ni ailrecordio Hawl Fyw i gefnogi ein hymgyrch.
"Mae geiriau'r gân yn addas iawn gan eu bod yn adlewyrchu egwyddorion yr ymgyrch sef cydraddoldeb.
Ychwanegodd un o'r artistiaid, Elin Fflur: "Mae hi'n braf iawn gallu cyfrannu mewn ffordd fach tuag at yr ymgyrch bwysig hon, ac mi yda ni'n ddiolchgar iawn i'r holl gantorion am droi allan.
Bydd y gân yn cael ei ryddhau ddydd Mawrth 14 Ebrill.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2015