Pryder wrth i ymgynghoriad bysiau Môn ddod i ben
- Cyhoeddwyd
Mae ymgynghoriad ar wasanaethau bysiau Ynys Môn yn dod i ben ddydd Gwener, gyda phryder y gallai rhai o wasanaethau'r ynys ddiflannu er mwyn arbed arian.
Mae'r newidiadau'n cael eu hystyried wrth i'r cyngor geisio arbed tua £15m dros dair blynedd.
Ar hyn o bryd, mae Cyngor Ynys Môn yn cefnogi tua hanner gwasanaethau bws yr ynys, ond dros y flwyddyn ariannol nesaf maen nhw angen arbed £60,000 yn y gwasanaeth hwnnw.
Mae hynny'n golygu newid posib i amserlenni - ac o bosib llai o fysiau, sy'n peri gofid i rai sy'n ddibynnol ar y gwasanaeth.
Dywedodd Ann Wyn Hughes, sy'n defnyddio'r gwasanaeth: "Mae o'n bwysig. Ges i operation ar fy nghefn felly fydda i ddim yn cerdded yn bell.
"Maen nhw'n reit dda, yn stopio reit o flaen tŷ i fi, chwarae teg iddyn nhw."
'Colled fawr'
Yn ogystal â'r gwasanaeth rhwng Bangor a Llanfairpwll, mi allai'r rhai sy'n teithio rhwng Bangor ac Aberffraw, Bangor ac Amlwch, Caergybi a Rhoscolyn a rhwng Caernarfon a Llangefni weld newid.
Dywedodd Gareth Jones, gyrrwr un o'r gwasanaethau sydd dan fygythiad: "Mae'n bechod os wneith o ddigwydd. Mae 'na lot o bobl yn dibynnu ar y gwasanaeth felly os fydd o'n cael ei dorri i lawr fe fydd yn golled fawr i bobl."
Yn ôl Cyngor Ynys Môn, maen nhw'n bwriadu tendro am "yr union rwydwaith" sy'n rhedeg ar hyn o bryd. Maen nhw hefyd am wahodd tendrau "am lefel o wasanaeth is".
Dywedon nhw eu bod yn gobeithio parhau gyda'r lefel bresennol o wasanaethau, ond bod rhaid iddo "gadw o fewn ei gyllideb".
Fe fydd yr ymgynghori'n dod i ben ddydd Gwener, ac mae disgwyl i'r cytundebau a'r amserlenni newydd ddod i rym ym mis Hydref.