Galw am atal cyllid i'r Ardd Fotaneg
- Cyhoeddwyd
Mae mudiad iaith wedi galw am atal rhoi arian cyhoeddus i'r Ardd Fotaneg Genedlaethol yn Llanarthne os yw'n torri ei chynllun iaith Gymraeg.
Mewn llythyrau at Brif Weinidog Cymru ac Arweinydd Cyngor Sir Gaerfyrddin, mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi beirniadu'r Ardd gan honni ei bod yn mynd yn groes i'w chynllun iaith ei hun.
Mae Comisiynydd y Gymraeg, Meri Huws, wedi cadarnhau ei bod yn delio gyda chwyn am arwyddion uniaith Saesneg ger yr ardd.
Yn ôl yr Ardd, maen nhw'n gwneud eu gorau i gynnig croeso Cymreig ond bod eu hymdrechion wedi'u cyfyngu oherwydd prinder cyllid.
Cafodd sawl cwyn eu gwneud gan fod arwydd uniaith Saesneg ar yr M4 ger yr ardd yn Llanarthne yn Sir Gaerfyrddin.
Maen nhw hefyd wedi ysgrifennu at gyfarwyddwr yr Ardd Fotaneg gan gyhuddo'r sefydliad o "haerllugrwydd" gan ychwanegu bod y mater yn "codi cwestiynau mawr am agwedd y sefydliad cyfan at y Gymraeg".
'Parch dyledus'
Yn eu llythyr at Carwyn Jones a Chyngor Sir Gâr fe ddywed y Gymdeithas:
"Mae ... agwedd yr Ardd at y Gymraeg, yn bell iawn o'r hyn sy'n ddisgwyliedig yn yr unfed ganrif ar hugain. Nid yn unig hynny, ond pan mae pobl gyffredin wedi cwyno am ddiffyg gwasanaethau a pharch sylfaenol i'r Gymraeg, mae ymateb swyddogion yr Ardd wedi bod yn gwbl annerbyniol, gan ymylu ar fod yn haerllug.
"Rydym yn deall eich bod yn rhoi arian sylweddol i'r Ardd Fotaneg bob blwyddyn. Galwn arnoch i atal yr arian cyhoeddus sy'n cael ei roi gan y Cyngor i'r Ardd Fotaneg tan eu bod yn dangos parch dyledus i'r Gymraeg."
Mewn llythyr arall at gyfarwyddwr yr Ardd Fotaneg Genedlaethol fe ddywed y mudiad:
"Y 'cyfiawnhad' rydych wedi ei roi dros godi arwydd uniaith Saesneg yw mai'r farchnad dwristaidd oedd y targed, ond mae'r arwydd yn torri ar y Cynllun Iaith ar wefan y Gerddi....
"Fe wnaethon ni gynnal cyfarfodydd gyda chi rai blynyddoedd yn ôl wnaeth arwain at godi arwyddion dwyieithog yn y gerddi, a bu trafodaeth am gynnig gwersi Cymraeg i staff, ac annog staff i wneud defnydd o'r Gymraeg. Mae'n ymddangos er hynny nad yw meddylfryd y gerddi wedi newid rhyw lawer."
Mewn datganiad newyddion fe ddywed Cymdeithas yr Iaith hefyd bod mwy o arwyddion uniaith Saesneg wedi cael eu gosod dros y penwythnos, ac maen nhw'n cyhuddo'r Ardd o roi'r argraff bod ymwelwyr o Loegr yn fwy pwysig na rhai o Gymru.
Mae cyfarwyddwr yr Ardd Fotaneg Genedlaethol wedi ymateb i alwad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.
Dywedodd Rosetta Plummer: "Mae'r Ardd yn gweithio'n galed i gynnig croeso cynnes Cymreig ac i hybu a datblygu ein hadnoddau iaith i'r ymwelwyr.
"Mae cyfyngiadau ar yr ymdrech yma yn enwedig pan mae cyllid ymhobman yn brin.
"Mae'n flin gennym fod teimlad fod un arwydd marchnata - sydd wedi'i dargedu - mewn rhyw fodd yn lleihau ein hymrwymiad i bwysigrwydd yr iaith Gymraeg."
Mae'r Ardd Fotaneg yn derbyn £650,000 mewn cyllid refeniw gan Lywodraeth Cymru bob blwyddyn."
Dywedodd Llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae hyn yn fater i Gomisiynydd yr Iaith Gymraeg a'r Ardd Fotaneg Genedlaethol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ebrill 2015