Garddio'r gwanwyn efo Gerallt
- Cyhoeddwyd
Mae'r tywydd wedi gwella yn ddiweddar felly mae'n gyfle i roi trefn ar yr ardd. Bydd na ysbrydoliaeth i'w gael yng Nghaerdydd rhwng 17 a 19 Ebrill pan fydd Sioe Flodau'r RHS, dolen allanol yn cael ei chynnal ym Mharc Biwt.
Ond os ydi'r brifddinas braidd yn bell i chi, peidiwch â phoeni gan bod y garddwr a'r cyflwynydd Gerallt Pennant wedi rhannu cyngor gyda Cymru Fyw ynglŷn â sut i roi rhywfaint o liw yn eich gerddi'r gwanwyn yma.
'Cylch y garddwr'
Buan y daw pawb sy'n ymhél â garddio i sylweddoli nad llinell, ond yn hytrach cylch ydy bywyd y garddwr. Un o'r mannau diddorol ar y cylch hwnnw ydy sioeau'r gwanwyn, ac mae sioe'r RHS yng Nghaerdydd wedi hen ennill ei phlwyf erbyn hyn.
Wedi dweud hynny, pethau digon rhyfedd ydy sioeau garddio, ar un llaw yn ysbrydoli, ac ar y llall yn digalonni.
Mae'n siŵr eich bod chi, fel fi, wedi dod adre o sioe a meddwl bod gwedd ein gerddi ni dipyn tlotach na'r gerddi sydd wedi eu creu ar gyfer y digwyddiadau yma.
Dyna agwedd y garddwr sydd â'i wydr yn hanner gwag, siawns bydd y garddwr sydd â'i wydr yn hanner llawn yn gadael maes y sioe yn byrlymu o syniadau!
Un o'r cynghorion garddio gorau ydy i chi sylwi beth sy'n tyfu'n dda yn eich cymdogaeth ac wedyn efelychu hynny yn eich gardd eich hun.
Coed Magnolia
Os oes un goeden flodeuog sy'n diffinio Caerdydd yn y gwanwyn, Magnolia ydy honno. Dyma un o ryfeddodau byd natur, yn hael ei blodau ac yn gallu dygymod yn iawn ym mhridd tenau palmentydd ein prifddinas.
Y coed magnolia collddail sy'n blodeuo'n gynnar yn y flwyddyn.
Mae hinsawdd a daear y rhan fwyaf o Gymru yn ddelfrydol ar eu cyfer, cyn belled â'u bod yn cael digon o le a digon o amser.
Dyna'r ddwy elfen sydd wedi peri bod llai o goed magnolia i'w gweld mewn gerddi bach. Y dewis gorau ar gyfer gerddi llai ydy Magnolia Stellata.
Tua deg troedfedd ydy taldra hon ac fel mae'r enw'n ei awgrymu ffurf serennog sydd ar y blodau.
'Meidas ei oes'
Gwanwyn tila fyddai hwnnw heb flodau crafanc yr arth i'w sirioli. Go brin fod yr un arall o flodau cynnar y flwyddyn yn gallu cystadlu o ran lliw, patrwm na ffurfiau efo'r rhain.
Helleborus ydy'r enw Lladin, a Helleborus Orientalis ydy un o aelodau gorau'r teulu.
Mae'r lliwiau'n amrywio o felynwyn ysgafn i borffor tywyll, efo brychni cyferbyniol yn britho'r petalau. Datblygiad cymharol ddiweddar ydy blodau dwbl, ac er bod rhai 'purwyr' yn eu wfftio mae nhw'n prysur ennill eu plwyf.
Llwyn melyn, llachar ydy'r Forsythia, sydd eto'n blodeuo cyn deilio. Dyma lwyn sy'n pegynnu barn, sbleddach o beth yn ôl rhai, aur bywiol yn ôl eraill.
Mae'n briodol bod yr enw yn coffáu dyn oedd yn dipyn o sbleddachwr, ac yn dipyn o sgiamp.
Ei enw oedd William Forsyth, ac yn 1799 llwyddodd i gael pymtheg can punt o groen y trysorlys. Am beth? Baw gwartheg, lludw a phiso! Meidas ei oes.
Camp a rhemp fu hanes William Forsyth a bu ei yrfa gynnar yr un mor llachar â blodau euraidd y Forsythia. Cafodd ei benodi'n gyfarwyddwr Gardd Feddygol Chelsea yn 1770.
Aeth ati'n llawn brwdfrydedd i wella'r ardd a chychwyn cynllun cyfnewid hadau efo gerddi tramor. Daeth hyn â bri rhyngwladol i'r ardd, bri sydd wedi parhau hyd heddiw. Ond wedi'r gamp, mi ddaeth y rhemp.
Coed yn pydru
Yng nghanol ei brysurdeb aeth ati i ddyfeisio'r Forsyth's Plaister, fyddai'n gwneud ei ffortiwn, ond yn chwalu ei enw da. Erbyn 1799 roedd y rhan fwyaf o goed derw'r wlad wedi eu rheibio gan y llynges.
Gwan a phydredig oedd cyflwr llawer o'r coed oedd yn dal ar eu traed. Os oedd Britannia am ddal ei gafael ar y tonnau rhaid oedd cael gwell coed i'r seiri llongau.
Gwyddai William Forsyth bod y llynges mewn tipyn o dwll ac mi welodd ei gyfle. Llwyddodd i argyhoeddi'r awdurdodau bod Forsyth's Plaister yn gallu gwella clwyfau ac atal coed rhag pydru.
Rhan o'i ymgyrch farchnata oedd llifio canghennau clwyfus a rhoi haen o'r plaister gwyrthiol i selio'r briw. Cafodd pawb eu twyllo, a chafodd William Forsyth ei bymtheg can punt.
Prin fod Forsyth wedi cael cyfle i bicio i'r banc cyn i'r cecru gychwyn. Gwelwyd mai cymysgfa o faw gwartheg, piso, calch, lludw a thywod oedd prif gynhwysion y plaister.
Aeth Forsyth i'w fedd yn 1804 a'r ffrae yn dal i gyniwair. Diolch fod melyn ei lwyn yn fwy dibynadwy na'i ddyfais wyrthiol.
Hawdd ydy maddau i William Forsyth ei feiau heddiw, yn enwedig wrth gofio ei fod yn un o sylfaenwyr yr RHS a sioeau'r gwanwyn yn rhai o'i waddol i ni heddiw. Mwynhewch y sioe!