'Dych chi yn fy nghlywed i?

  • Cyhoeddwyd

Erbyn hyn mae'r rhan fwyaf ohonom ni yn cymryd cyfathrebu di-wifr yn ganiataol, ond wyddoch chi mai yma yng Nghymru y cafodd y darllediad radio di-wifr cyntaf ar draws fôr agored ei wneud?

A hithau yn Ddiwrnod Rhyngwladol Marconi, dolen allanol ar 25 Ebrill, mae Cymru Fyw yn edrych yn ôl ar y datblygiadau arwyddocaol yn ardal Penarth ym mis Mai 1897:

Disgrifiad o’r llun,

Yr arloeswr Guglielmo Marconi

"Ydych chi'n barod?"

Y peiriannydd a'r arloeswr o'r Eidal, Guglielmo Marconi, oedd yn gyfrifol am yr arbrawf yma - sef darlledu'r neges "Are you ready" mewn cod Morse, 6km ar draws Môr Hafren o Ynys Echni i Drwyn Larnog, ger Penarth ym Mro Morgannwg.

Roedd yr arbrawf yma yn arwyddocaol iawn. Am flynyddoedd lu, gweithiodd cyfathrebu trwy gyfrwng cod Morse yn dda, drwy ddefnyddio polion telegraff, ond roedd angen rhywbeth oedd yn gallu croesi'r moroedd mawr.

Roedd unigolion wedi bod yn arbrofi ac yn ceisio datblygu ffyrdd eraill o gyfathrebu ers blynyddoedd.

William Preece oedd prif beiriannydd y Swyddfa Bost, ac roedd yn cynnal ei waith arbrofi ym Mhenarth. Llwyddodd i greu ffenomenon o'r enw anwythiad cilyddol (mutual induction) gyda dau ddarn o weiren gopr, a oedd yn profi fod tonnau electromagnetig yn gallu 'teithio' drwy'r aer, yn hytrach na thrwy weiren.

Roedd o'r farn fod yr ïonosffer, rhan allanol o atmosffer y ddaear, yn chwarae rhan bwysig i achosi i donnau radio fownsio oddi arno, ac felly eu helpu i deithio pellteroedd hir. Tua'r un pryd, roedd yr Almaenwr, Heinrich Hertz, wedi profi bodolaeth ymbelydredd electromagnetig.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y neges gyntaf ei hanfon o Ynys Echni ar draws Sianel Bryste i Drwyn Larnog yn 1897

Arbrofi

Beth wnaeth Marconi oedd dod â'r syniadau a'r darganfyddiadau hyn ynghyd a'u datblygu ymhellach, a mynd ati i geisio profi fod modd anfon negeseuon heb wifrau.

Ar y dydd hwnnw ym Mai 1897, roedd cynorthwy-ydd Marconi, George Kemp, yn sefyll ar Ynys Echni a chriw ar y traeth ar Drwyn Larnog gyda'u hoffer, megis mastiau 30m o uchder, capiau zinc a gwifrau copr.

Roedden nhw wedi bod wrthi ers deuddydd, ond doedd yr arbrawf ddim yn gweithio, a dim i'w glywed gan yr ynys, er fod Kemp yn brysur anfon signalau cod Morse drwy ddefnyddio Coil Ruhmkorff, sef trawsnewidydd trydanol.

Dechreuodd Marconi boeni fod ei ddamcaniaeth a'i ymchwil yn anghywir, ond cafodd ysbrydoliaeth a dechrau cerdded ar hyd y traeth.

Drwy wneud hynny, ymestynnodd y weiren oedd i dderbyn y signal, a heb yn wybod iddo, achosodd hyn i'r amledd (frequency) ostwng, a olygodd fod y neges yn gallu cael ei darlledu o'r ynys ar draws y dŵr.

Ffynhonnell y llun, Glyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o'r gwŷr oedd yn helpu Marconi, a'u hoffer

Galw am filwyr

Mi aethon nhw yn syth i Wlad yr Haf er mwyn cynnal arbrawf dros bellter mwy, ond yng Nghymru oedd yr arbrawf cyntaf.

Un mlynedd ar hugain yn ddiweddarach, ar 22 Medi 1918, anfonodd Marconi neges yn llawer pellach, a chwaraeodd Gymru ran fawr yn y darllediad yma hefyd.

Cafodd neges mewn cod Morse ei hanfon o Ryd Ddu yn Eryri i Wahroonga, Awstralia at Brif Weinidog Awstralia, sef William Morris Hughes, brodor o Landudno. Pwrpas y neges oedd i ofyn iddo anfon mwy o filwyr ANZAC i Ewrop.

Ffynhonnell y llun, Glyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Plac mewn eglwys ger Trwyn Larnog sy'n coffáu'r arbrawf gan Marconi a Kemp

Gwobr Nobel

Roedd gwaith Marconi yn arloesol ar y pryd, ond buan aeth y dechnoleg yn hen. Fodd bynnag, y dechnoleg yma oedd sail nifer o dechnolegau radio a chyfathrebu cymhlethach.

Yn 1909 enillodd Wobr Nobel mewn Ffiseg ar y cyd â Karl Braun am eu cyfraniadau i ddatblygiad telegraffiaeth di-wifr.

Bob blwyddyn, ar Ddydd Rhyngwladol Marconi ar 25 Ebrill (sef dyddiad ei benblwydd) mae aelodau o Gymdeithas Radio Amatur y Barri yn cysylltu â radios ar draws y byd, â hynny nepell o fan y prawf llwyddiannus cyntaf hwnnw, er cof am bwysigrwydd yr arbrawf arloesol.

Mae Glyn Jones, cadeirydd y gymdeithas, sydd wedi bod yn cyfarfod am dros 40 mlynedd, yn credu'n gryf fod angen ei goffáu.

Ffynhonnell y llun, Glyn Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cardyn i ddathlu 75 mlynedd ers yr arbrawf cyntaf, pwysig, wedi ei lofnodi gan wraig a merch Marconi

"Y dydd fu farw Guglielmo Marconi yn 1937, cafodd pob un meicroffon ar draws y byd ei ddiffodd am dri munud er cof amdano. Amhosib meddwl fod hynny wedi bod yn bosib - dychmygwch wneud hynny heddiw... Ond dyna pa mor arwyddocaol oedd ei waith i'r dechnoleg gyfathrebu sydd gennym ni heddiw."

Mae Cymru wedi chwarae rhan enfawr yn natblygiad cyfathrebu, ac mae hyn yn rhywbeth sydd angen ei gofio.

Fel ddywedodd Glyn: "Mae'r Saeson wastad eisiau'r clod - ond yng Nghymru y cafodd cyfathrebu ei eni".