Ateb y Galw: Eleri Siôn
- Cyhoeddwyd
Wythnos yma y cyflwynydd Eleri Siôn sy'n Ateb y Galw. Cafodd ei henwebu gan Nigel Owens
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Un o'r atgofion cynhara' sy' gen i yw gwylio mam yn plingo cwningen yn y gegin. Roedd fy nhad yn rhoi maglau lawr i ddal y cwningod ar y fferm.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?
Ro'n i'n addoli Paul Young. Nes i weld e'n perfformio yn fyw yn yr NEC yn Birmingham pan o'n i'n 15 oed ac roedd gen i boster chwe troedfedd ar ddrws f'ystafell wely.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Gormod i'w rhestru a dim un yn addas i'w drafod!
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Wythnos ddiwetha' ar ddiwedd y ffilm TOY STORY 3.
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Nifer... yr un gwaetha'... cnoi f'ewinedd.
Dy hoff ddinas yn y byd?
Rwy'n dwli ar Rufain. Lle bynnag chi'n troi yn y ddinas mae 'na ryw slabyn o gelf, pensaernïaeth, hanes o'ch blaen chi.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Ar wahan i'r noson gwrddes i fy ngŵr i (!!!!!!!) y noson nes i roi genedigaeth i Alffi, hynny yw ar ôl yr oriau o bwsho!
Oes gen ti datŵ?
Na.
Beth yw dy hoff lyfr?
Pa bynnag un wi'n ddarllen ar y pryd, ac ar y pryd llyfr gan Caitlin Moran 'How to be a Woman'!!!!
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Bra.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
Ffilm newydd Russell Crowe, 'The Water Diviner'.
Dy hoff albwm?
Albwm i ddathlu'r grŵp Texas yn 25 oed sef 'TEXAS 25'.
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddi di'n ei ddewis?
Cwrs cynta - Parma ham ac asparagus, prif gwrs - spaghetti bolognese, pwdin - treiffl.
Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?
Ffonio.
Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Fy ngŵr - fel mod i'n cael y cyfle i werthfawrogi pa mor anhygoel yw e i fyw gyda fi ( he he he!!!!!).
Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Wynne Evans.